sef yn Abertawy, ar y 27ain o Ionawr, fel y crybwyllwyd eisioes; yn Merthyr, ar yr 17eg o Chwefror; yn Aberthyn, Mawrth yr 17eg; yn Llanilltyd Fawr, ar y 13eg o Fai; yn Nghapel Gyfylchi, Mehefin yr 16eg; yn Ystradgynlais, Gorphenaf 14eg; yn y Creunant ar y 1af o Fedi; yn Mhontypridd, ar y 29ain o'r un mis; yn Llantrisant, ar y 27ain o Hydref; ac yn y Pil, ar y dydd olaf o'r flwyddyn. Mae y rhestr uchod yn ddiameu yn dangos agos yn gyflawn gylch Cyfarfod Misol Morganwg am y flwyddyn 1819. Cafodd Mr. Evans y fraint o bregethu mewn Cyfarfod Misol am y tro cyntaf yn y Creunant, ar y 1af o Fedi. Ei destyn ydoedd Heb. ii. 3: "Pa fodd y diangwn ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint ?" Dyma yr unig dro iddo gael yr uchel-fraint yn y flwyddyn hono. Bu hefyd mewn pedair o Gymdeithasfaoedd yn ystod yr un flwyddyn, sef yn Llanfairmuallt, Caerffili, Llangeitho, a'r Casnewydd-ar-Wysg. Ar ei ffordd i, ac yn ol o Lanfairmuallt y rhoddodd ei daith bregethwrol gyntaf allan o'i sir ei hun. Wedi pregethu ar Donyrefail am 10, Sul yr 21ain o Fawrth, Glynogwr am 2, a Llety-bron-gu am chwech, yr ydym yn ei gael dydd Llun, yr 22ain, yn Mhenrees am 12, ac yn Nghwm Nedd yn yr hwyr; dydd Mawrth, y 23ain, yn Ystradfellte ganol dydd, ac yn Aberhonddu yn yr hwyr. Oddiyno aeth i Lanfairmuallt, a dychwelodd i bregethu nos Iau, y 25ain, yn Nhalgarth. Dydd Gwener, y 26ain, yr oedd yn Llangors ganol dydd, ac yn Nghrughywel yn yr hwyr. Nos Sadwrn, y 27ain, yn Mlaenafon, a'r Sul dilynol yn Nghendl a Thredegar; a'r Llun wedi hyny Rhymni am 10, Dowlais am 2, a Merthyr yn yr hwyr. Pwy oedd ei gydymaith ar y daith hon nid ydym yn gwybod; feallai ei fod yn gyfaill i un o weinidogion y sir, neu yr hyn sydd yn fwy tebyg, yr oedd yn myned i'r Gymdeithasfa yn nghwmni un o flaenoriaid y sir. Fe ddichon mai hon ydoedd y daith yr aeth gyda'r henuriad adnabyddus, Thomas Dafydd, Pencoed, ac y dygwyddodd iddynt mewn rhyw fan gyfarfod Mr. John Morgan, Penybont, a'i gyfaill
Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/77
Prawfddarllenwyd y dudalen hon