efail gôf, yn ymyl yr eglwysdŷ. Codwyd y capel, neu "y tŷ cwrdd," fel y gelwid ef ac y parhawyd i'w alw, tua chwarter milldir i'r dwyrain, yr ochr chwith i'r ffordd sydd yn arwain tua Thonyrefail; ac yno y cyrchai ymron yr oll o'r amaethwyr yn y cylch. Y mae yn demtasiwn gref i ni aros ychydig yn y fan yma i ymddifyru mewn adgofion am yr hen gyfeillion oedd yn gofalu am yr achos crefyddol, ac yn enwedig teuluoedd y Cryglas a Hendreforgan, Penllwyngwynt a Chaerosser, perthynasau ein hanwyl fam; eithr ymattaliwn. Yr ydym modd bynag yn galw sylw at y crybwylliad am agoriad capel Glynogwr fel y cyntaf o'r fath yn hanes Mr. Evans, ac ar ryw olwg fel dechreuad ei gysylltiad â chynydd Methodistiaeth yn Morganwg. Bu efe, fel y cawn weled, yn bresenol yn agoriad llawer o gapelau yn y sir hono. Ni a glywsom y Parch. Edward Matthews, fwy nag unwaith mewn Cymdeithasfa, yn datgan fod gweinidogaeth Mr. Evans wedi bod yn foddion ac yn un o'r prif foddion i hyrwyddo llwyddiant y Cyfundeb yn Morganwg. I'r rhai sydd yn ei gofio yn ei nerth, ac yn wir am flynyddoedd wedi pasio cyflawnder ei nerth-y mae nifer y cyfryw ysywaeth yn myned yn fychan-yr ydym yn sicr nad yw y dystiolaeth hon yn ymddangos i'r graddau lleiaf yn ormodol.
Wrth ddilyn y coflyfrau sydd yn cynwys y cyfrif o lafur gweinidogaethol Mr. Evans, y mae yn ddyddorol i sylwi ar enwau lleoedd pregethu newyddion sydd yn dyfod i'r golwg y naill flwyddyn ar ol y llall; ac weithiau yr ydym yn ei gael ef yn pregethu mewn amaethdai ag oeddynt, yn amser blynyddoedd cyntaf ei oes fel pregethwr, yn unig ac anghysbell, lle yn awr y mae ardaloedd poblog, a chapelau eang, ac eglwysi lluosog a chryfion. Yr ydym eisioes wedi cyfarfod â'r enw Llety-bron-gu, tyddyn yn nghwm Llyfni, ychydig i'r deau o Maesteg, Gŵr o'r enw Madog oedd yn byw yno, a chyfaill mawr i Mr. Evans. Yr oedd y lle yn gorwedd yn gyfleus ar y ffordd o Donyrefail i gyfeiriad y teithiau Sabbothol yn ngorllewin Morganwg. Pregethodd Mr. Evans