Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/85

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ydym yn ei gael yn pregethu yn Nghyfarfod Misol Llanilltyd Fawr ar y 25ain o Chwefror, 1823, ac yn yr Eglwys Newydd ar y 7fed o Fai, ac yn Ystradgynlais ar y 31ain o Gorphenaf, ac yn Nhreforris yr 28ain o Awst, ac yn y Dyffryn ar y 13eg o Dachwedd. Rhoddodd daith trwy sir Frycheiniog yn Mai, a bu yn Nghymdeithasfa Llambedr-PontStephan ar y 6fed a'r 7fed o Awst, gan roddi cyhoeddiad byr wrth fyned a dychwelyd. Dyma y Gymdeithasfa yr ordeiniwyd Mr. Thomas Harries, Hwlffordd, yr hwn wedi hyny a fu yn gwasanaethu y Tabernacl, Wotton-under-Edge, swydd Gaerloyw, ond yn ddiweddarach a ymadawodd yn llwyr o'r Cyfundeb, ac a aeth i'r Eglwys Sefydledig. Pan y gofynwyd i Mr. Evans, ychydig flynyddoedd cyn ei farwolaeth, sef pan yr oeddym yn parotoi ein hysgrif ar Mr. Thomas Harries, a ymddangosodd yn y Drysorfa am 1887, ei farn am dano, atebodd, "Pan yr aeth Mr. Thomas Harries i'r Eglwys, fe gollodd ei wrandawyr ac fe gollodd ei ddawn." Dyma y Gymdeithasfa ag yr oedd Mr. John Jones, Talsarn, yn bresenol ynddi, wedi myned yno gyda Mr. John Jones, Beddgelert, ac heb neb yn gwybod dim am dano, ac oblegyd hyny ni wnaed sylw o hono. Mae yn sicr fod yn Llambedr rai yn gwybod rhywbeth am William Evans, Tonyrefail; ond ei holl fraint yntau, fel eiddo Mr. John Jones, Talsarn, ydoedd gwrandaw; ac wrth ystyried y fath ddefnyddiau ag oedd yno at gadw Cymanfa (gwel yr hanes yn Nghofiant Mr. John Jones, Talsarn, gan Dr. Owen Thomas), yr oedd hyny yn fraint annhraethol. Nid oedd awr y naill na'r llall eto wedi dyfod, eithr yr ydoedd yn agosau. Cyn diwedd y flwyddyn 1823 yr oedd Mr. Evans wedi gwneuthur ei daith gyntaf i'r Gogledd. Sul, y 23ain o Dachwedd, yr oedd yn Llanidloes am 10, Llandinam am 2, a'r Drefnewydd am 6; ac yna aeth rhag ei flaen yn fanwl trwy sir Drefaldwyn, gan orphen drachefn yn Llanidloes, nos Sabboth, y 7ed o Ragfyr. Ar hyd yr wythnos ddilynol yr oedd yn myned trwy ranau o sir Frycheiniog, gan orphen yn Mhontnedd