Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/86

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fychan, nos Sul, y 14eg. Dydd Llun, y 15fed, yr oedd yn yr Ynysfach am 10, a Chastellnedd yr hwyr; a dydd Mawrth, yr 16eg, yn y Dyffryn am 10, Pil am 2, a Phenybont y nos, ac yna adref.

Yr ydym yn awr yn dyfod at y flwyddyn 1824. Ar y 14eg a'r 15fed o Ionawr, yr oedd Cymdeithasfa yn cael ei chynal yn Mhenybont. Trefn y pregethu ydoedd: am 3, y diwrnod cyntaf, Daniel Evans a Thomas Jones; am 6, yr ail ddydd, Ffoulk Evans; am 10, Mr. John Evans ac Ebenezer Richard; am 2, Edward Jones a Thomas Richards; ac am 6, Morgan Howells a William Havard. Pregethodd Mr. William Evans yn Nghyfarfod Misol Aberthyn ar y 26ain o Chwefror, ac yn Nghwrdd misol Llantrisant ar y 18fed o Fawrth. Ar ol gwasanaethu Caerdydd a St. Ffagan, Sul yr 28ain, aeth i Laneurwg bore Llun, y 29ain, a Risca yr hwyr; a dranoeth dychwelodd i'r Casbach i Gyfarfod Misol Mynwy, lle y pregethodd yr ail ddydd am 11eg; ac aeth oddiyno erbyn yr hwyr i'r Casnewydd; ac yna aeth i ychydig o leoedd ereill ar ei ffordd i Dredegar erbyn bore Sul, y 4ydd o Ebrill, Coed-duon am 2, a Gelligroes y nos. Nos Lun y Pasg, sef y 19eg o'r un mis, pregethodd am y tro cyntaf yn Nghwrdd Misol Salem, Pencoed. Bu yn Nghymdeithasfa Trecastell ar y 25ain a'r 26ain o Fai. Ac yr oedd hefyd yn bresenol yn Nghymdeithasfa Llangeitho, ar y 1ofed a'r 11eg o Awst, pryd y neillduwyd ei hoff gyfeillion, Mr. Morgan Howells, Mr. William Griffiths, a Mr. David Howell. Ar yr 8fed a'r 9fed o Fedi yr ydym yn ei gael yn Nghyfarfod Misol Penybont, ac yn pregethu am 2 yr ail ddiwrnod. Hyd yma yr oedd y pregethu yn unig y nos gyntaf a'r ail foreu. Fel y clywsom ni ef ei hun yn dyweyd, mai "trefn arferol y Cwrdd Misol y pryd hwnw oedd, William Evans a Richard James y nos gyntaf, David Williams a Richard Thomas am 10, yna pawb tua thre'." Eithr y tro hwn, yn Mhenybont, dyma oedfa ychwanegol am 2 yr ail ddydd, ac fe ddichon yr estynwyd yr oedfeuon hyd ddiwedd y dydd. Yr un modd yn