Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD V.

1825

CYNWYSIAD.

Teithiau Sabbothol Mr. Evans yn mis Ionawr—Agoriad capel Hirwaen—Cymdeithasfa Aberystwyth—Taith trwy sir Aberteifi—Agoriad capel presenol Llantrisant—Cymdeithasfa Pontypool; y penderfyniad i neillduo Mr. Evans—Ei deithiau Sabbothol yn Ebrill—Ei daith trwy Ogledd Cymru—Cymdeithasfa flynyddol Bangor: adgofion am dani— Cymdeithasfa y Bala—Braslun o bregeth Mr. Evans—Cymdeithasfa Caerfyrddin—Agoriad capel Pontfaen—Taith trwy sir Benfro—Ei neillduad yn Nghymdeithasfa Aberteifi—Ei fedydd cyntaf—Taith trwy sir Frycheiniog—Llafur cartrefol.

YR oedd y flwyddyn hon yn un bwysig yn hanes Mr. William Evans, Yr ydym eisioes wedi crybwyll iddo bregethu dim llai na phedwar cant ac un o weithiau yn 1825. Teithiodd lawer yn y flwyddyn hono. Dyma y flwyddyn y gwnaeth ei daith fawr trwy Ogledd Cymru, pan y bu oddicartref am yn agos i ddau fis o amser. Yn y flwyddyn hon yr ymddangosodd am y tro cyntaf yn gyhoeddus fel pregethwr ar faes y Gymdeithasfa. A dyma hefyd flwyddyn ei neillduad i gyflawn waith y weinidogaeth.

Dechreuodd waith y flwyddyn gartref: Sul, yr 2il o Ionawr, yr oedd yn pregethu yn Glynogwr am 10, Dinas am 2, a Thonyrefail am 6. Ar y 4ydd a'r 5ed yr oedd yn bresenol ac yn cymeryd rhan yn agoriad capel Hirwaen. Y nos Sadwrn dilynol pregethodd yn Waenfo; a'r Sabboth, y 9fed, Dinas Powys am 10, Cadoxton am 2, a Threhill am 6. Wedi pregethu ar ddwy noswaith yn yr wythnos ganlynol, sef ar y 12fed a'r 15fed, Sul yr 16eg, aeth i Glynogwr erbyn 9, ac oddiyno i Lantrisant erbyn 2, ac adref i'r Ton erbyn yr hwyr. Dydd Llun, yr 17eg, "y plant yn myned i'r ysgol at