Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/97

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Richard; ac am 6, Henry Rees a Michael Roberts." Dyna fel yr ysgrifenodd Mr. Evans i lawr enwau y rhai fu yn y gwaith yn y Gymdeithasfa hono.

Yn mysg y rhai oedd yn gwrandaw yn y Bala y pryd hwnw yr oedd "bachgen pedair-ar-ddeg oed," yr hwn oedd yn ysgrifenydd buan, ac a gymerodd i lawr yn lled gyflawn bregeth Mr. William Evans. Enw y bachgen oedd Roger Edwards, wedi hyny y Parch. Roger Edwards, Wyddgrug. Nid yw efe yn dadguddio ei enw, ond yn hytrach yn ei guddio, yn gyffelyb fel y gwnaeth Ioan yn ei Efengyl; ond y mae yn eglur mai ato ei hun yr oedd diweddar Olygydd y Drysorfa yn cyfeirio pan y dywedai ar tud. 4 o'r rhifyn am Ionawr, 1878, "Ond caiff hyn o ysgrif derfynu gyda chrynhodeb o'r bregeth a draddododd yn y Gymdeithasfa grybwylledig yn y Bala, yn yr oedfa 10 o'r gloch dydd Iau, yr 16eg o Fehefin, 1825, o flaen y Parch John Elias, fel ei hysgrifenwyd gan fachgen pedair-ar-ddeg oed y pryd hwnw."

Fel y canlyn y mae yr adroddiad o'r bregeth :—

"Matthew v.4.-' Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru; canys hwy a ddyddenir.'

"Yn y benod o'r blaen yr ydym yn cael yr Iesu yn dechreu ar ei weinidogaeth gyhoeddus, wedi ei fedyddio gan Ioan, ac wedi ei demtio yn yr anialwch ddeugain niwrnod. Dyma Efe yn myned 'oddiamgylch holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyl y deyrnas;' ac yr oedd Efe yn llefaru fel un âg awdurdod ganddo, a chyda hyny, yn iachau pob clefyd a phob afiechyd yn mhlith y bobl.' Yr oedd y son am dano yn myned trwy yr holl wlad, ac wele dorfeydd lawer yn dyfod ar ei ol o holl barthau'r wlad, nid yn unig o Galilea, ond o 'Decapolis, a Jerusalem, a Judea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen.' Ac felly medd dechreu'r benod, A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd, Efe a esgynodd i'r mynydd;' ac oddiyno y mae yn pregethu y bregeth ryfedd a geir yn y benod hon a'r ddwy ganlynol. Yn y rhan flaenaf o honi, mae yn cyhoeddi wyth Gwynfyd yn