dani wrth y miloedd, a gwasgarer hi trwy hyd a lled y sefydliadau Cymreig. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig;" a mwy bendigedig na'r cyffredin, feddyliwn i, a ddylai fod coffadwriaeth Dr. Everett.
Ychydig dros flwyddyn yn ol, trwy droad yr olwyn weinidogaethol, gosodwyd fi i lawr yn West Winfield. Yn fuan ar ol sefydlu yma, un prydnawn aethum i addoldy hardd yr Annibynwyr Seisonig. Ar ol diweddu y cwrdd, cyfeiriodd Capt. Owen Griffith fi at un o'r ffenestri eang a phrydferth, ac arni mewn llythyrenau euraidd eglur, canfyddais, "IN MEMORIAM REV. ROBERT EVERETT, D. D." Yn y fan teimlwn fy nghalon yn gwresogi, a'm llygaid yn llenwi.
I lawer o'r bobl henaidd yn y rhan yma o'r wlad, yn enwedig plwyf Winfield, y mae enw Dr. Everett nid yn unig yn dra adnabyddus, ond hefyd yn dra anwyl. Braidd erioed ni welwyd bugail eglwysig a gerid yn fwy gan bobl ei ofal, nag y cerid y Parch. Robert Everett gan yr Eglwys Gynulleidfaol Saesoneg, yn East Winfield, ychydig dros ddeugain mlynedd yn ol. Cefais y pleser yn ddiweddar o ymddiddan o berthynas iddo gyda rhai o'r hen ddiaconiaid, a rhedai eu dagrau pan yn coffa ei ymddygiad lednais a boneddigaidd, a'i weinidogaeth alluog ac efengylaidd.
Y mae yr addoldy yn mha un y pregethai Mr. Everett yn Winfield wedi ei dynu i lawr, ac y mae llawer o'r hen ddefnyddiau yn yr addoldy newydd yn mhentref. West Winfield. Ond er tynu yr hen deml i lawr, a myned i addoli i fan arall, fel y dywedais o'r blaen, ni anghofiwyd eu hen weinidog, ac ni ang-