Y RHAGLITH.
Bywgraffyddiaeth sydd gangen werthfawr ac addysgiadol o lenyddiaeth; ond yr ydym ni fel Cymry wedi ei hesgeuluso i raddau gormodol; ac y mae yn bryd i ni ddiwygio. Y mae dynion sydd wedi bod yn gymwynaswyr i'r cyhoedd, ac yn fendith i'r byd, yn deilwng o goffadwriaeth barchus.
Cydnabyddid yr hybarch Dr. Everett fel prif ddyn yr Annibynwyr Cymreig yn America. Edrychid i fyny ato fel tad a phrif arweinydd yr enwad. Wedi iddo huno yn yr Iesu, coleddid dysgwyliad cyffredinol am ymddangosiad buan ei Gofiant; ond, yn anffodus, ni chafodd y dysgwyliad hwnw ei gyflawni hyd yn awr.
Ar anogaeth teulu y Doctor yr ymgymerais â'r gwaith o olygu ei Gofiant; ond yr wyf wedi cael fy hun dan lawer o anfantais i wneyd cyfiawnder â'r gwaith; a drwg yw genyf na fuasai y gorchwyl wedi disgyn i ran rhywun yn meddu mwy o adnabyddiaeth bersonol o hono, yr hwn a allasai ddarlunio ei deithi a'i nodweddau, heb achos ym ddibynu cymaint ar ddesgrifiadau rhai eraill. Yr wyf yn ymwybodol fod diffygion yn perthyn i'r Cofiant; ond diffyg gallu a phrinder defnyddiau yw yr achos o honynt, ac nid pall mewn ewyllys, na diffyg edmygedd o'r gwrthddrych parchus. Nis gallesid cael ychwaneg o hanes ei fywyd boreuol yn Nghymru, am fod ei gymdeithion yr amser hwnw wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Diamheu fod llosgiad ei dŷ, yn y wlad hon, wedi dinystrio llawer o gofnodion allasai fod yn gymorth neillduol at gyfansoddi hanes ei fywyd boreuol. Nid oedd galwad am fanylu ar hanes holl flynyddau ei fywyd yn America, gan ei fod yn byw yn lled debyg un flwyddyn ar ol y