llall, ond fel yr oedd yn parhaus gynyddu mewn ysbrydolrwydd a nefoleidd-dra meddwl.
Teimlaf yn ddiolchgar i'r rhai sydd wedi anfon defnyddiau at y Cofiant, a thrwy eu cydweithrediad serchog, hyderaf yr ystyrir cynwysiad y llyfr yn ddyddorol a buddiol, er fod diffygion ynddo. Gobeithiaf na theimla neb o'r cyfeillion hyny yn galed ataf, am dalfyru rhyw bethau yn eu hysgrifau, a gadael rhyw bethau allan. Yr oedd yn angenrheidiol gwneuthur hyny er mwyn gochelyd gormod o ail-adroddiadau, gan fod amryw wedi cyffwrdd â'r un materion.
Yr oedd Dr. Everett yn arfer ysgrifenu ei feddyliau mewn llaw fer Gymreig, a llaw fer Seisonig, nad oes nemawr yn awr yn medru ei darllen: ond y mae un o'i ferched wedi llwyddo i'w deongli; a cheir yn y Cofiant rai pregethau byrion a lloffion wedi eu codi o'i law fer. Cofied y darllenydd nad oedd wedi ysgrifenu y rhai hyny yn gyflawn, nac wedi eu bwriadu i'r wasg, ac felly eu bod i raddau yn anmherffaith. Cyflwynir hwy i'r cyhoedd fel engreifftiau o'r dull y byddai yn bras-linellu ei bregethau, gan adael darnau i'w llanw yn ddifyfyr wrth eu traddodi, yn enwedig ar y diwedd.
Drwg genyf fod amryw ysgrifau rhagorol o'i waith, y rhai y bwriedid eu cyhoeddi, wedi cael eu gadael allan, rhag chwyddo y llyfr yn ormodol, a rheidio codiad yn ei bris. Yr wyf wedi amcanu gwneyd y detholiad o'i gyfansoddiadau yn ddangosiad teg o'i arddull a'i athrylith, trwy gyfleu amrywiaeth o erthyglau ynddo, rhai yn dduwinyddol ac athrawiaethol, rhai yn wrthgaethiwol, a rhai yn ymarferol.
Nid wyf yn meddwl fod eisiau gwneyd esgusawd dros gyhoeddi Adran Seisonig yn y Cofiant, gan y gwna hyny gynyddu ei werth a'i ddefnyddioldeb mewn lluaws o deuluoedd; yn neillduol i'r ieuenctyd.