Dymuna teulu yr hybarch Everett arnaf, i ddefnyddio y cyfleusdra hwn i gyflwyno eu diolchgarwch gwresocaf i bawb a gyfranasant at gyfodi y gofgolofn hardd sy'n nodi gorphwysle olaf eu hanwyl dad, yn mynwent y Capel Uchaf, Steuben .
Y mae'r teulu wedi ychwanegu llawer at werth y gyfrol trwy roddi ynddi ddau ddarlun (steel engravings) hardd o'r Doctor a Mrs. Everett. Cyflawnodd yr arlunydd ei waith yn gampus. Anfynych iawn y gwelir ardebau mor berffaith .
Gallaf hysbysu y darllenydd fod olrhain bywyd duwiol ,
ac edrych wedi dros ysgrifau pur ac efengylaidd y tad Everett
wedi bod yn lles a bendith i fy meddwl i, a'm bod yn gobeithio
y bydd olrhain a darllen yr un pethau , yn lles
a bendith i'w feddwl yntau .
Yr wyf yn gostyngedig gyflwyno y gyfrol hon i'm cyd genedl , gyda gweddi ar i Dduw y cariad ei bendithio i fod yn lles tragywyddol i lawer.
- D. DAVIES (DEWI EMLYN).
- Parisville, O. , Tach . 13 , 1879.
- D. DAVIES (DEWI EMLYN).
CYWEIRIAD GWALLAU.
Tud | llinell | yn lle | darllener |
---|---|---|---|
13 | 10 | diniweidrwydd | diwydrwydd |
42 | 27 | Haul | Hawl |
52 | 16 | rwyfodd | rywfodd |
97 | 19 | Emmonds | Emmons |
148 | 6 | cymerind | cymeriad |
166 | 29 | ddaear | daear |
235 | 4 | ddeddf | deddf |
242 | 28 | y deddf | y ddeddf |
271 | 17 | dau | ddau |
281 | 15 | yn ddysgwyl | i ddysgwyl |
300 | 24 | deilliaw | deillia |
317 | 27 | anllad | anlladrwydd |
318 | 5 | odddiwrth | oddiwrth |
337 | 13 | eu | ein |