gweinyddu yn ei urddiad. Dywedir nad oedd yr eglwys mewn sefyllfa lewyrchus iawn pan aeth ef yno; ond yr oedd yn barchus ac yn hen. Dywed Caledfryn, brod or o Ddinbych, "Yr wyf yn cofio yr edrychid ar aelod au yr eglwys yno, tua haner can’ mlynedd yn ol, fel hen lanwyr parchus, hynod lym dros eu trefniadau a'u ffurfiau, ond yn bur sychlyd. Nid oeddynt yn plygu fawr gyda'r oes, pan oedd achos y Methodistiaid yn dân a lluched i gyd. Yr oedd cryn wrthwynebiad yn rhai o honynt i orfoleddu. Gadawodd amryw y lle ac aethant at y Methodistiaid yn amser Mr, Llwyd, mewn canlyniad i hyny. Yr oeddent hwy am gael eu defod au fel gwyr y llan yn barchus (respectable) heb roddi nemawr ryddid i'r teimladau dori dros y llestri."
Sylwa Dr, R. Gwesyn Jones, "Gallwn feddwl oddi wrth deithi meddwl Mr. Everett, yn gystal a'r hyn a glywais am dano, fod ynddo gymwysder neillduol i fyned i Ddinbych ar y pryd. Yr oedd yn ddigon pwyllog a boneddigaidd i beidio dychrynu y rhai oedd ent yn anfoddlon i orfoleddu, tra yr oedd yn ddigon miniog, bywiog a gwresog i'w deffroi o'u cysgadrwydd, a chynhyrfu eu cydwybodau i fwy o weithgarwch a sel. Mae y Parch. R. Thomas, Bala, yn nghofiant Mr. Jones, Dolgellau, yn dyweyd fod pregethau Everett, fel yr eiddo Williams o'r Wern, yn bachu yn nghalonau y gwrandawyr, nes y byddent yn methu cael ymwared oddiwrthynt."
Awst 28, 1816, aeth Mr. Everett i'r sefyllfa briodasol gyda Miss Elizabeth Roberts, ail ferch Mr. Thomas Roberts, o Rosa, yn agos i Ddinbych, yr hon a fu yn ymgeledd dyner a rhagorol iddo am agos i dri ugain o flynyddau, ac a fu byw dair blynedd ar ei ol.