amryw o weinidogion fod arnynt angen cyfrwng i amddiffyn eu hunain rhag cam-ddarluniadau ymosodwyr, ac i oleuo meddyliau y cyhoedd ar brif athrawiaethau yr efengyl.
Mewn cyfarfod yn Ninbych, Tach. 1, 1821, ymrwymodd deuddeg o honynt i ddwyn y Dysgedydd allan. Saif eu henwau wrth y cytundeb yo y drefn ganlynol: D. Jones, Treffynon; D. Morgans, Machynlleth; Robert Everett, Dinbych; Cad. Jones, Dolgellau; W. Williams, Wern; John Evans, Beaumaris; Benjamin Evans, Bagillt; D. Roberts, Bangor; Robert Roberts, Treban; Edward Davies, Rhoslan; John Roberts, Llanbrynmair, a William Hughes, Dinas. Yn ystod ei arosiad yn Nghymru cyhoeddodd Dr. Everett gynllun o law fer Gymreig. Dywed y Parch. S. Roberts am dano, "Yn ol ei anogaeth dysgais y cynllun hwnw, a bu ei gymelliad i mi ei dysgu a'i harfer, yn gymorth mawr i mi drwy fy holl oes—dichon o fwy o les i mi na'r holl mathematics ag y bum yn ymboeni gyda hwy." Cyhoeddodd hefyd yr Addysgydd, neu y Catecism Cyntaf. Y mae lluaws o argraffiadau o hwnw wedi eu dwyn allan ar ol hyny yn Nghymru ac America, ac y mae yn parhau yn dderbyniol iawn o hyd.
Adrodda S. Roberts yr hanesyn nodweddiadol a ganlyn am Dr. Everett pan oedd yn Nghymru: "Yr oedd Dr. Everett yn un a fedrai ymfeddianı gyda thawelwch mewn adegau o gynhwrf ac o berygl. Pan oedd unwaith yn croesi afon Caer wrth ddychwelyd o Gymanfa yn Liverpool, gyda mintai o'i gyd-weinidogion, yr oedd y gwynt yn ysgwyd eu cwch yn arswydus, a'r tonau yn ymluchio drasto yn ddiorphwys, nes