Yr oedd Dr. Everett yn ystod wyth mlynedd ei arosiad yn Ninbych wedi dringo i safle uchel yn ngolwg y wlad fel un o'r pregethwyr mwyaf galluog a phoblogaidd. Byddai ei bregethau yn cario dylanwad rhyfeddol ar y cynulleidfaoedd. Safai yn agos iawn i Williams o'r Wern mewn poblogrwydd pregethwrol, ac mewn dysgeidiaeth yr oedd lawer yn uwch. Bu son mawr am ei bregeth yn Nghymanfa Llanbrynmair yn 1815, sef blwyddyn ei urddiad, ar y geiriau, "O! frodyr, gweddiwch drosom." Nid oedd yn anadnabyddus yn y Deheudir chwaith. Cof genym i ni glywed Mr. John Morgan, Bron Iwan, hen flaenor yn Hawen, yr hwn oedd yn fath o wyddoniadur gyda golwg ar hanes yr Annibynwyr yn yr haner cyntaf o'r ganrif hon, yn siarad am bregeth odidog a glywodd ganddo mewn Cymanfa rywle yn y Deheudir. Dywedai ei fod yn "electrifeio y gwrandawyr yn rhyfedd."
Yn y flwyddyn 1823, cafodd Dr. Everett alwad i ddyfod drosodd i fugeilio eglwys Gynulleidfaol Gymreig Utica, Efrog Newydd. Yr oedd dau o'i frodyr- yn-nghyfraith yn byw yno, ac yn ei wahodd yn daer i gydsynio a'r alwad. Bu yr ymgais i'w gael yn llwyddianus, a daeth ef a'i deulu drosodd y flwyddyn hono, er colled i Gymru, ac er enill mawr i America. Ysgrifenai J. Roberts, Llanbrynmair, dan y dyddiad Mai 31, 1823, at ei frawd, George Roberts, Ebensburgh, Pa.: "Yr wyf yn hyderu y bydd dyfodiad. Mr. Everett i America o fawr les. Y mae yn weinidog gwerthfawr iawn, a gobeithio yr helaethir ei ddefnyddioldeb." Dywedai S. Roberts: "Yr wyf yn cofio fod teimladau o alar drwy eglwysi y Gogledd pan y deallaşant am ei fwriad i ymfudo i'r Unol Dalaethau."