ont yn blaenori yn mhob oes o'r byd yn y cyfryw ddiwygiadau. Pa offerynoliaeth a ddefnyddiwyd i gael Israel o'r Aipht? onid Moses ac Aaron fel proph wydi yr Arglwydd a safasant yn yr adwy danllyd? Pwy a safodd yn erbyn gorthrwm Ahab? Onid Elias ac Eliseus, a chyda hwy yr oedd "saith mil y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal." Pwy a safasant flaenaf yn erbyn gorthrwm y Pab yn y 16eg canrif? Pwy a fuant ar y maes yn nghychwyniad cyntaf y diwygiad dirwestol, onid gweision yr Arglwydd, ac onid hwy yn wir a ddylasent fod, ac a ddylent fod eto yn selog a diflino gyda yr achos gwerthfawr hwnw, a phob achos o'r cyfryw natur.
5. Mae y dylanwad a fedd gweision yr Arglwydd yn rhy werthfawr i'w golli. Nid oes genym ddim i ymffrostio yn ddynol ynddo, anwyl frodyr, ond y mae dylanwad yn perthyn i'n swydd oruchel ac i ninau ynddi, yr hyn a roddwyd i ni gan Dduw, a dylai gael ei ddefnyddio o blaid pob achos sydd yn dal perthynas a dinystr pechod, llwydd efengyl a chadwedigaeth eneidiau.
A oes arnom ofn difriaeth gwrthwynebwyr yr achos gwrthgaethiwol? Na, hyderaf na chaiff hyny ein rhwystro yn y gradd lleiaf. Pa beth a all dyn wneyd i ni, yr hwn y bydd ei wyneb ef fel yr eiddom ninau yn fuan yn glasu yn angau! Gwael iawn yw ceisio boddhau neb dynion ar y draul o esgeuluso dyledswyddau pwysig ein hadeg a'n tymor yn nhy a theyrnas ein Harglwydd ar y ddaear.
A oes arnom ofn nas gallwn lwyddo? Hyderaf na chaiff hyny le ar ein meddyliau am eiliad tra y cadwom olwg ar addewidion y digelwyddog Dduw. Er fod