hychwanegu at eglwysi Utica, o'r rhai rhwng deugain a haner cant a unasant ag eglwys Dr. Everett. Yr oedd bobl yn cydweithredu yn ardderchog a'r weinidogaeth yr amser hwnw. Yr oedd pob dydd fel Sabboth. Cynelid dau neu dri o gyrddau gweddi yn ngwahanol ranau y ddinas am naw ac un-ar-ddeg y boreu, a thri y prydnawn. Yr hwyr, drachefn, cyrddau crefyddol i weddio neu bregethu a gynelid yn mhob eglwys. Dywedai: "Yr amser mwyaf difrifol a hyfryd a brofais erioed ydoedd. Weithiau byddai ychydig gyfeillion Cristionogol yn cwrdd yn nghyd yn nhai eu gilydd yn y prydnawn i weddio a molianu Duw. Nid peth anghyffredin oedd i ugain neu ddeg-ar-hugain o'r fath gyfarfodydd gael eu cynal yr un amser, a phrofasant yn fendith fawr. Yn y cyrddau bychain hyny yr oedd yn arferiad i weddio dros bersonau wrth eu henwau, ac y mae llawer o engreifftiau hynod o dröedigaeth y rhai y gweddient drostynt. Yr oedd yr argyhoeddiadau yn ddyfnion iawn mewn rhai amgylchiadau yn y dyddiau hyny."
Yr oedd yn teimlo yn garedig at y mudiad dirwestol er pan glywodd am dano gyntaf, a phan gafodd gyfle yn 1827, aeth yn mlaen yn gyhoeddus yn Utica i arwyddo yr ardystiad, a bu yn gefnogwr cyhoeddus, gweithgar a phenderfynol i'r achos o hyny i'w fedd. Anhawdd i'r to presenol goleddu drychfeddyliau priodol am sefyllfa alaethus y sefydliadau Cymreig, yn nghyd a'r wlad yn gyffredinol, yr amser hwnw, drwy yr arferiad ddinystriol o yfed diodydd meddwol, yr hon a ffynai yn mhob man, ac yn mhlith pob dosparth o bobl; ac anhawdd iddynt synio yn gywir am y gwroldeb a'r penderfyniad oedd yn angenrheidiol, er dyfod