Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.djvu/345

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y GORUCHWYLIAETHAU YN DYWYLL, ETO YN UNIAWN.

Salm 97: 2.—"Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef; cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef."

Cysuron i blant trallod a gyfansoddant brif addysg y Salm hon. Mae yn debygol iddi gael ei chyfansoddi ar ryw gyfnod trallodus ar bobl Dduw. "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfoledded y ddaear," &c., adn. 1. Mae yr ystyriaeth fod awenau y llywodraeth yn ei law ef yn destyn teilwng o lawenydd a gorfoledd. Mae yn teyrnasu trwy orchymyn i bawb wneyd yr hyn sydd dda, ac ymatal oddiwrth yr hyn sydd ddrwg. Mae yn teyrnasu trwy drefniadau ei ragluniaeth. Mae yn teyrnasu trwy farnedigaethau ar un llaw, a thrwy drugareddau ar y llaw arall. Mae yn atal drygau, yn cymell i ddaioni, yn cwblhau amcanion daionus o'i eiddo ei hun trwy weithredoedd y rhai drygionus, ac y mae pob peth dan ei oruchel awdurdodaeth ef—"Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu." Sylwn,

I. Fod gweinyddiadau rhagluniaeth Duw tuag at ddynion yn y bywyd presenol, yn fynych yn dywyll ac anamgyffredadwy. "Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef."

1. Y mae felly pan y mae dynion drygionus yn llwyddo mewn drygioni, a'r Arglwydd yn oedi ei farnedigaethau. Fe'i gwelir felly yn fynych—dynion drwg yn gwneyd drwg ac yn ffynu, a'r Barnwr mawr yn ddystaw, yn ymarhous yn ei lid. "O herwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan, am hyny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg." "Hyn a wnaethost, a mi a dewais,