3. Pan y mae barnedigaethau Duw yn gyffredinol, yn cyrhaedd y drwg a'r da, y beius a'r diniwed. Y mae ei farnedigaethau ef felly yn fynych. Buasai ychydig o rai cyfiawn yn ddigonol i arbed dinasoedd drygionus Sodom a Gomorrah; eto fe ddinystriwyd llawer o blant by chain diniwed y pryd hwnw, ysgubell y farnedigaeth yn eu cymeryd oll ymaith. Dichon nad oedd dim arall i'w wneyd yn yr amgylchiad, Gall fod llawer yn methu canfod yn y dyddiau presenol paham y mae eu rhai anwyl hwy, ïe, rhai fuont mor wrthwynebol a neb i'r camwri a oddefid yn ein gwlad, ac a barodd i'r Barnwr mawr orchymyn i daran—folltau ei ddigofaint eu taro. Wel, dichon na allwn ni ganfod y manylion yn ei drefn ef. Gall efe ddwyn yn brysur ato ei hun yr eneidiau a ymddiriedant ynddo ac a gymerir ymaith o'r manau arswydol lle y cwympant, a dichon yr esbonir eto ganddo ef yr hyn nas gallwn ni ei ganfod yn awr. "Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef."
4. Goruchwyliaethau angau ydynt yn fynych yn anamgyffredadwy i ni yn bresenol. Pan y mae tadau a mamau yn cael eu tori i lawr ar fyr rybudd, a thylwyth ymddibynol arnynt ac analluog i'w hamddiffyn eu hunain yn cael eu gadael ar ol, y mae cymylau a thywyllwch o'i amgylch ef. Yr un modd, pan y mae rhai a ymddangosant i ni wedi eu cymwyso i fod yn ddefnyddiol, ac angen am eu gwasanaeth yn y cylch rhagluniaethol y troant ynddo, a rhai o ganol y defnyddioldeb mwyaf, (fel Spencer o Liverpool gynt) yn cael eu galw ymaith, a hen brenau crinion diffrwyth yn cael eu gadael—rhaid dweyd yn yr amgylchiadau hyn