a'r cyffelyb fel y dywed y testyn, "Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef." Ond sylwn,
II. Ar iaith gysurol y testyn—os cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef, "cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef." Y gair "cyfiawnder" a arwydda fod ei lywodraeth yn deg ac uniawn, a'r gair "barn" a arwydda ei fod yn gweithredu mewn pwyll, mewn doethineb a chydag amcanion daionus yn mhob peth. Pan nad ydym ni yn gallu canfod troad olwynion ei ragluniaeth ef, gwyddom gyda sicrwydd mai "Cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc."
Gan mai amcan a dyben yr addysg a roddir yn y Salm hon, fel y sylwyd uchod, oedd cysuro y trallodus, a hyny mewn adegau tywyll ac ar achlysuron anhawdd eu hesbonio, a chan fod yr adeg bresenol yn gyfnod o drallod mawr ar lawer, ceisiwn yma nodi rhai ystyriaethau cysurol i blant trallod.
1. Y mae yr Arglwydd yn gweithredu yn mhob peth a thuag at bawb mewn uniondeb a chyfiawnder. "Cyfiawnder" yw un o seiliau tragywyddol ei orseddfainc. Pa fodd bynag y gweithreda tuag atom, a pha mor dywyll bynag yw yr oruchwyliaeth, gallwn fod yn sicr mai cyfiawnder yw trigfa ei orseddfainc. Ni wna gam â gwr yn ei fater. "Ei holl ffyrdd ydynt farn, Duw gwirionedd a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe." "Oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?" Ystyriaeth o hyn a lonyddodd feddwl yr hen offeiriad Eli, pan ddanfonwyd cenadwri ato trwy y bachgen Samuel, a phan draethodd y cyfan heb atal dim, yn ol dymuniad Eli, dywedodd, "Yr Arglwydd yw efe, gwnaed a fyddo da yn ei olwg." Yr ystyriaeth mai yr Arglwydd oedd yn llefaru oedd yn ddig