Sylwn ar rai pethau perthynol i natur eglwys Dduw dan yr oruchwyliaeth efengylaidd.
1. Ystyr y gair. Y gair gwreiddiol a arwydda cynulleidfa, neu rai wedi eu "galw allan" o'r dorf gyffredin.
Defnyddir ef am gynulleidfa, heb un cyfeiriad at ansawdd y gynulleidfa, yn Act. 19: 32, 39, 41. Yn ei gysylltiad ag achos Crist mae yn cael ei ddefnyddio am rai yn mynych ymgyfarfod yn yr un lle, ac yn rhodio yn nghyd dan gyfamod ac mewn cymdeithas a'u gilydd, mewn tori bara ac mewn gweddiau, megys yr eglwys hon yn Jerusalem, eglwys Corinth, eglwys Thessalonica, saith eglwys Asia, &c. Defnyddir ef hefyd i osod allan yr holl deulu gwaredigol o ddechreu i ddiwedd amser, Math. 16: 18; Eph. 1: 22; 3: 10; 5: 25, a manau eraill.
2. Mae eglwys Crist i fod yn gynulleidfa o ddychweledigion at yr Arglwydd. Nid rhai yn cymeryd eu cymundeb i'w cymwyso i swyddi gwladol, neu oddiar fod hyny yn enill iddynt enw yn eu hardal ac yn mhlith eu cymydogion, yw ei haelodau teilwng, ond dynion syml, o deimlad drylliog am bechod, yn arddel Iesu oddiar gariad ato a dymuniad i'w ogoneddu yn eu bywyd, gan ei hystyried yn fraint oruchel i gael lle yn ei dy, ac o fewn ei fagwyrydd. I'r cyfryw y perthyna y fraint o ddyfod at fwrdd Crist, a hwy yw y rhai tebygol o fod yn ddefnyddiol gyda ei achos. Gelwir hwy yn "saint a ffyddloniaid yn Nghrist Iesu," yn "oleuni y byd," &c.
3. Cynulleidfa yw a'i ffurf a'i threfn yn ddwyfol a nefol. Mae llawer o gymdeithasau daionus i'w cael yn mhlith dynion y rhai y mae eu ffurfiad wedi ei adael yn hollol i ddoethineb ddynol. Tybia rhai fod