rhywbeth yn fwy na moddion moesol, neu berswadiad, at y rhai a droseddant yn erbyn lles cyffredin dynoliaeth. Pan y mae dynion, trwy eu hanfoesoldeb, yn niweidio eu cyd—ddynion, yn eu personau neu eu meddianau, rhaid eu gorfodi i beidio, trwy ddeddfau priodol. Felly y gwneir â'r lleidr, y difenwr, a'r llofrudd.
Gwir Harddwch.—Gwir harddwch sydd gynwysedig, nid mewn glendid gwynebpryd a dillad gwychion; nid mewn gwallt plethedig, blodau celfyddydo!, a rhubanau amryliw; ond mewn ymddygiad synwyrlawn, gwylaidd, a duwiol yn mhob peth.
Addoliad Teuluaidd. Nid oes neb yn arfer duwioldeb gartref (yr wyf yn meddwl yn sicr), ac yn esgeuluso yr addoliad teuluaidd.
Sancteiddiad y Sabboth.—Wrth y swn, y prysurdeb❜ a'r terfysg, a ganfyddir ar ein camlasau, ein rheilffyrdd, ein hafonydd, a manau cyhoeddus eraill, ar y Sabboth, gellid meddwl nad yw y wladwriaeth Americanaidd yn wladwriaeth Gristionogol, nac yn cydnabod awdurdod y ddeddf foesol. Trwy yr ysbryd anghristionogol a ffyna yn ein gwlad, troir y bendithion gwerthfawrocaf yn felldithion o'r trymaf arnom. rhwyddineb a'r cyflymdra a roddir i ymdeithiau ein dinasyddion o le i le, trwy gamlasau, agerdd—fadau, ac agerdd—gerbydau, sydd un o fendithion gwerthfawrocaf cymdeithas wareiddiedig; ac eto, pwy na wyr fod y gwelliantau diweddar yn y pethau hyn wedi bod yn un o'r achosion mwyaf neillduol o gyflym iselhad ein gwlad mewn anfoesoldeb, yn enwedig trwy halogedigaeth Sabboth Duw. Ond da genym weled fod ym-