gyfeiriad a roddir i'r saeth pan ollyngir hi gyntaf oddiar y bwa, gan y bydd y cyfeiriad hwnw yn debyg o effeithio ar ei holl lwybr.
Sefyllfa Prawf.—Yr un peth yn gwbl ydym yn feddwl wrth fod dyn mewn "sefyllfa o brawf," a'i fod mewn "sefyllfa o obaith ;" ac os nad yw mewn sefyllfa o obaith, yna mae ei gyflwr yn gyffelyb i eiddo y damnedigion yn y tân tragywyddol. Ond y mae yn cael ei wahodd yn dirion a grasol iawn yn awr i dderbyn bywyd trwy dderbyn Mab Duw, ac y mae y bywyd sydd yn Nghrist yn gwbl ddigonol ar ei gyfer. Dyma y tir prawf, a dyma y sefyllfa obeithiol y mae trefn fawr y cyfamod gras wedi gosod dyn ynddi.
Awgrym i Ohebwyr.—Bydded yr ysgrifau yn gyffredin yn fyrion, yr ysbryd yn efengylaidd, a'r iaith yn bur, yn oleu a grymus.
Gwahodd Pawb.—Dywedir weithiau fod y pregethwr i wahodd a gorchymyn pawb i ddyfod at Iesu, am na wyr pwy a drefnwyd i ddyfod. Ond y mae genym fwy i'w ddyweyd na hyn; nid y pregethwr sydd yn gwahodd, ond Duw EI HUN; ac y mae efe yn gwybod pob peth. "Yn gymaint ag i MI eich gwahodd, ac i chwithau wrthod, i MI estyn fy llaw, a neb heb ystyried."
Bywyd Cyson.—Bywyd cyson â'r efengyl ydyw y prawf goreu o wirionedd ein cyffes a sicrwydd ein gobaith.
Crist yn y Mil Blynyddoedd.—Bydd Iesu Grist yn wyddfodol gyda ei bobl (nid yn ei ddynoliaeth, ond yr hyn sydd yn llawer gwell a mwy "buddiol" i ni),