trwy ei Ysbryd Sancteiddiol; a bydd mor hawdd canfod ei bresenoldeb yn y dylanwadau dwyfol a effeithir, a phe ei gwelid ef yn ei ddynol natur, fel y gwelwyd ef yn ngwlad Judea.
Ymddangosiadau yr Ail Berson.—Carai yr Ail Berson ymddangos yn fynych yn y ddynoliaeth cyn ymbriodi â hi yn nghyflawnder yr amser. Yr oedd yn llawenychu yn nghyfaneddle ei ddaear ef, a'i hyfrydwch oedd gyda meibion dynion.
Cymeradwyaeth gyda Duw.—Y mae yn ofnus genym fod rhai yn ceisio gweithio eu meddwl i grediniaeth o'u bod yn gymeradwy gyda Duw, heb seiliau digonol i hyny; yn ceisio gweithio eu meddyliau i deimlad o'u gwneuthuriad eu hunain (artificial feeling), pryd nad yw eu gweithredoedd yn gyflawn ger bron Duw.
Symudiad Enoch.—Cymerodd (Duw) ei was Enoch mewn ffordd anghyffredin. Ni ddygwyd ef i wely cystudd; ni chafodd brofi ingoedd y datodiad; ni welodd ddyffryn tywyll ac arswydol cysgod angau. Aeth dros yr afon, ac nid drwyddi.
Ty Dduw yw Porth y Nef.—Mae y porth yn rhan o'r adeilad; y rhan nesaf allan mewn ystyr. Felly y mae ty Dduw yn rhan o'r nef ei hunan; y rhan nesaf allan. Yr un gwrthddrych a addolir yma ag yn y nef; yr un gwasanaeth a ddygir yn mlaen; yr un bendithion a fwynheir, er nad i'r un graddau.
Dysg i Ferched.—Y mae cyneddfau y ferch mor dreiddgar, yn gyffredin ag eiddo y mab. Mae y gwybodaethau yn tueddu i'w dedwyddu hi fel yntau. Mae