edu am ein gwaed, os na allem trwy resymau, trwy dynerwch, na thrwy gilio o'i gyrhaedd, gael diogelwch, ymdrechem amddiffyn ein hunain a'n heiddo, trwy ddinystrio bywyd y llofrudd. A dyna yn hollol yw egwyddor ac ymddygiad ein llywodraeth yn y rhyfel presenol (yn 1861).
Gwrthryfel 1861.—Dyma ryfel wedi ei gynyrchu mewn gwlad rydd, gan gaeth-ddalwyr, dros eangu a bytholi caethiwed dynol; ïe, y caethiwed ffieiddiaf yn ei lygredigaethau moesol, ac yn ei anghyfiawnder cywilyddus, o ddim caethiwed a fodolodd erioed ar ddaear Duw.
Esgeuluso.—Llawer clwyf wrth ei esgeuluso a aeth yn anfeddyginiaethol; a llawer un wrth oedi dychwelyd, a adawyd i galedwch mwy, ac a fu farw yn ei bechod.
Arweiniad Rhagluniaeth.—Mae yr Arglwydd yn arwain yn ei ragluniaeth, yn trefnu lleoedd ein preswylfeydd, yn trefnu ein cysylltiadau a'n perthynasau, yn ein hatal rhag rhyw ffyrdd y mynasem ni eu cerdded, gan gau y ffordd o'n blaen megys â drain, a'n harwain ffordd arall, yn groes i'n dymuniad (efallai) ar y pryd.
Cariad.—Cariad sydd flodeuyn tra phrydferth mewn ystyr foesol a chrefyddol; ei berarogl sydd ddymunol yn y wladwriaeth, yn y gymydogaeth, yn y teulu, ac yn eglwys Dduw. Yr hwn a rodia mewn cariad a anadla awyr beraroglaidd y nef ei hun. "Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad!"