fynwyd fod y Parch. Robert Everett, y Parch. Morris Roberts, a Mr. Griffith W. Roberts, Remsen, yn cael eu penodi yn bwyllgor i ddwyn allan Lyfr Emynau newydd at wasanaeth yr enwad. Dygwyd ef allan yn 1846, dan yr enw "Caniadau y Cysegr," o swyddfa argraffu Everett, a thybiwn fod pen trymaf y gwaith fel arferol wedi gorphwys ar ysgwyddau y Doctor. Fel "Llyfr Emynau Everett" yr adwaenir ef yn gyffredin, ac y mae yn llyfr rhagorol: dygwyd allan dri argraffiad o hono, a gwnaeth wasanaeth anmhrisiadwy i'r hen Genedl yn ei sefydliadau gwasgaredig trwy y wlad. Y mae llyfrau eraill wedi ei droi o'r neilldu yn ddiweddar mewn llawer man; ond er mor dda ydynt, yr ydym yn teimlo yn chwith am golli Caniadau y Cysegr o'n haddoliadau, gan iddo fod yn gydymaith anwyl i ni am lawer blwyddyn, a'i fod yn cynwys cryn lawer o benillion hoff a melus nas ceir mewn llyfrau diweddar. Y mae Caniadau y Cysegr a'r Beibl Cymreig wedi bod yn gymdeithion cynes mewn canoedd o aneddau yn America; ac na fydded iddynt gael eu hysgaru tra fyddo yr hen iaith anwyl yn cael ei deall tu yma i'r cefnfor. Rhwng golygiaeth y Cenhadwr, bugeiliaeth ei eglwysi, a dilyn gwahanol gyfarfodydd cyhoeddus yn Oneida a'r cylchoedd, cedwid Dr. Everett yn bur ddiwyd, fel nas gallai ymgymeryd a theithiau pell yn aml, ond gwyddom iddo ymweled â Chymanfa Pennsylvania ddwywaith, sef yn y blynyddoedd 1846 ac 1847, a'i fod yn dderbyniol a chymeradwy iawn ar ei ymweliadau, a bod ei frodyr bob tro yn galw arno i roddi iddynt rai o'i bregethau rhagorol trwy y Cenhadwr.
Yn y flwyddyn 1858 ymwelodd ef a'r Parch, D.