Price, (Dewi Dinorwig) â chymanfaoedd Ohio a Wisconsin. Dyna yr unig dro i ni ei weled a'i glywed. Yr oedd yn myned ar ei wyth-a-thri-ugain oed, ac yn ymddangos braidd yn eiddil a gwanaidd o ran cynfansoddiad corphorol; ond eto synasom lawer ei weled mor heinif a bywiog. Yr oedd yn canfod yn eglur trwy wydrau 36 inch focus, y fath ag a ddefnyddir gyntaf gan rai a'u llygaid yn dechreu gwanhau ychydig; ac yr oedd ei law-ysgrif y pryd hwnw, ac yn hir ar ol hyny, mor brydferth a digryn a phe na buasai ond pump-ar-hugain oed. Yr oedd ei bregethau o gyfansoddiad trefnus a rheolaidd, ac o ran eu cynwysiad yn addysgiadol, ymarferol, ac efengylaidd: ac er ei bod yn amlwg ei fod wedi pasio ei amser goreu fel pregethwr, eto yr oedd ei draddodiad yn dra effeithiol, gafaelgar a gwlithog. Yr oedd effeithiau ei gydffurfiad gofalus â deddfau natur, ei gymedroldeb syml gyda phob peth, a'i ymataliad oddiwrth y myglys, diodydd meddwol, a phob blys a drwg dymer, i'w gweled yn amlwg yr amser hwnw yn nghyffwr ac agweddau ei gorph a'i feddwl. Daliodd drafferth a llafur ei daith fawr 'yn well nag y gallesid dysgwyl. Pan oedd ar ei deithiau y pryd hwnw, bydddai ei gyd-genedl yn mhob man yn crefu arno roddi mwy o ffrwyth ei feddwl ei hun allan yn y Cenhadwr, ac ar ol dychwelyd ymdrechodd gydsynio a'u cais dros amryw flynyddau trwy gyhoeddi ysgrifau rhagorol o'i waith ei hun ar wahanol faterion. Yn y man yma nis gallwn wneyd yn well na gadael i hen frawd parchus a chyfaill ffyddlonaf i Dr. Everett, siarad am dano, a rhoddi pigion o'i lythyrau.