a thaflu eu hunain wrth draed y caeth-feistri i dderbyn cadwyni iddynt eu hunain, gan lyfu y dwylaw oedd yn eu sicrhau. Dywedai Dr. Everett yn y Cenhadwr am Chwefror," Wrth edrych ar sefyllfa ein gwlad y dyddiau presenol, gellir dweyd mai y cwestiwn penaf sy'n ymgynyg i'r meddwl yw, Beth a ddylai y Talaethau rhyddion wneyd yn wyneb y cynhwrf mawr yn y De? A ddylent roi i fyny eu hegwyddorion, ac ail feddwl a chydnabod nad yw caethiwed yn bechod yn erbyn Duw, nac yn wadiad o iawnderau annileadwy dynoliaeth? Na, ni ddylent wheyd hyny. 'Hold to your principles though the heavens fall,' ydyw'r maxim. Nid oes newid i fod ar egwyddorion sylfaenol gwirionedd. Nid yw eu gwadu na chilio oddiwrthynt yn eu cyfnewid."
Credai ei bod yn gyson â Christionogaeth i roi y gwrthryfel i lawr trwy rym arfau. Yn y rhifyn am Medi, 1861, ar ol sylwi mai dyben blaenoriaid y De, "oedd sefydlu llywodraeth fawr eang yn llywodraeth gaeth hollol," gofyna, beth a wneir? Yna dywed, pe buasai y Deheuwyr wedi dyfod allan trwy resymau, y gallesid eu cyfarfod â rhesymau; ond gan iddynt ddyfod allan trwy rym arfau, nad oedd dim i'w wneyd ond ateb trwy rym arfau. Dadleua fod llywodraeth y wlad hon yn deilwng o'i hamddiffyn, dyweda: "Rhoi y ddadl i fyny, a chaniatau i'r gwrthryfel gael ei ffordd, a'r llywodraeth gael ei darostwng, fyddai yn gwrthdaro yn erbyn llwyddiant yr ysbryd gwerinol trwy'r byd, ac yn digaloni pleidwyr rhyddid yn mhob gwlad dan y nef.
Gwneyd hyn fyddai yn gam a'r mwyafrif o ddinasyddion yr holl wlad, y rhai a roddasant eu llais yn deg