Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bobl, ac yn ngwydd y Meistr mawr! Llawer o feddyliau difrifol a dramwyasant trwy fy mynwes ddoe, a neithiwr, yn oriau y nos. Rhai meddyliau hyfryd o ddiolch am gael bod dros haner canrif dan yr enw o weinidog―gyda breintiau mor fawr-breintiau ty Dduw yn werthfawr-dim gofid mawr erioed (fel y bu ar lawer) yn y cylch teuluaidd-cydmar anwyl—a phlant anwyl a roddes y Tad nefol i ni. Cefais y fraint o fod gydag achosion daionus yn eu cychwyniad allan gyntaf mewn gwendid. Ond, O! anwyl frawd, gwael iawn, a bylchog iawn, ac oer iawn mae fy nghalon wedi bod, wrth fel y dylasai fod. Mae'r tymor wedi pasio heibio fel gwyliadwriaeth nos, a'i ffrwyth wedi bod yn bur brin, a llawer iawn o feiau eisiau eu maddeu trwy'r Iawn mawr.

Wel, mae'r awr i roi cyfrif yn nesu; mae fy ngobaith, anwyl frawd-er gwaeled fu'r gwasanaeth, ac er cymaint y beiau—mae fy ngobaith am gael derbyniad adref yn ddiogel at y teulu sydd wedi blaenu i dy ein Tad. Ond trugaredd ryfedd fydd hyny, a mawr fydd y rhwymau i ddiolch. Teulu Duw yw fy mhobl, a'i waith yw fy hyfrydwch, a gobeithiaf y caf, trwy ei ras ef, fod gyda'r teulu, ac yn y gwasanaeth yr ochr draw cyn bo hir iawn. * * * Ydym ein dau yn uno i gofio atoch, ac at Mrs. Edwards. Yr eiddoch,

ROBERT EVERETT.

Oblegid fod Dr. Everett yn llesghau ac yn colli ei lais, yn y flwyddyn 1866 daeth y brawd Sem Phillips i fod yn gydweinidog ag ef, a buont yn cydlafurio hyd y flwyddyn 1872. Cofnodwn ychydig o'r hyn a ddywed Mr. Phillips am ei gydweinidog yn hanes eglwys Steuben: