Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae cysgodion hwyrddydd bywyd yn ymdaenu trosoch, a'n gweddi yw am i brydnawn eich oes fod yn deg a thawel o dan wenau yr hwn y buoch yn ei wasanaethu mor ffyddlawn. Bydded i "ras ein Harglwydd Iesu Grist" fod yn etifeddiaeth i chwi, eich anwyl briod, eich plant, a'ch hiliogaeth hyd byth, yw ein dymuniad a'n gweddi.

Arwyddwyd dros yr eglwys,

NATHANIEL ROBERTS,
JOHN GRIFFITHS,
JOHN WALTERS,
EDWIN ROBERTS,
EVAN THOMAS,
ROBERT PIERCE,
 
Diaconiaid

Dinbych, Ebrill 17eg, 1871.

Atebiad Dr. Everett i Eglwys Dinbych.

STEUBEN, ger Remsen, Gorph. 10fed, 1871.

AT EGLWYS GYNULLEIDFAOL DINBYCH:

Anwyl Frodyr a Chwiorydd-Gyda fy anwyl frawd Nathaniel Roberts derbyniais eich anerchiad caredig ataf yn llawysgrif anarferol o dlws a phrydferth Mr. Belis, yr hon a gedwir yn ofalus gan fy mhlant a'm hwyrion wedi i mi huno yn yr angau. Diolchaf â chalon gynes am eich adgofion parchus a charedig o flynyddoedd boreu fy ngweinidogaeth yn Ninbych. Byddaf finau yn meddwl yn aml am y blynyddoedd hyny gyda theimladau dwys iawn. Bu arnaf hiraeth mawr, a pharhaodd yn hir, am yr eglwys ac am y gynulleidfa yn Ninbych. Gwelais lawer o garedigrwydd, a chefais lawer o gysur gyda y rhai sydd yn mhell cyn hyn wedi