ymadael a'r fuchedd hon. Ychydig iawn sydd wedi eu gadael ag oeddynt yn aelodau o'r eglwys y pryd hwnw. Maent hwy wedi myned at gyfeillion purach, ac i fwynhad o ddedwyddwch helaethach nag a geir yma.
Ond mae yn dda genyf feddwl am y lluaws o frodyr a chwiorydd ffyddlawn a ddaethant i mewn o bryd i bryd, i gymeryd lle y rhai fuont ffyddlon yn eu dydd a'u tymor gyda'r achos, a bod yr olwg mor ddymunol ar yr eglwys a'r gynulleidfa yn bresenol. Gwelsom ninau wahanol dywydd gyda'r achos goreu yn America yn y blynyddoedd meithion y bum yma. Gwelsom rai tymorau llwyddianus a hyfryd iawn, ac eraill yn aflwyddianus, ond o'n hochr ni y mae'r aflwyddiant bob amser, ac nid dim o'i ochr Ef.
Tro rhyfedd yn America oedd rhyddhad diweddar y caethion, a llwyr ddilead y drefn felldigedig o ymddwyn at y Negroaid fel anifeiliaid y maes. Mae yn gywilydd mawr i America, yr hon a ymffrostia mor fawr yn ei rhyddid, ei bod wedi cynal yn ei phlith drefn mor felldigedig am dymor mor faith. Ond trwy drugaredd fawr y nef mae hyny i'w gyfrif yn mhlith y pethau a fu―diolchwn yn fawr am hyny.
Yr ydwyf wedi ystyried er's blynyddau lawer bellach fod yr achos a elwir genym yr achos dirwestol, yn deilwng o fwy o gefnogaeth nag y mae yn gael yn America ac yn Mhrydain hefyd, Mae yn symudiad rhesymol, yn achos da, ac yn taro yn erbyn un o ddrygau mwyaf alaethus yr oes. Yr ydym wedi gweled cyfnewidiad mawr, wrth y peth a fu, gyda yr achos hwn, ond mae eisiau ymdrechion mwy egniol a chyson eto. Ac yr wyf yn hollol o'r farn mai llwyr ymwrthod