Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.djvu/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

groes y bydd hyny, Ffarwel! Parhewch i weddio drosof a thros fy anwyl deulu. Yr eiddoch yn yr Arglwydd,

ROBERT EVERETT.

Yr oedd Dr. Everett dros bedwar ugain oed pan ysgrifenodd y cyfarchiad yna, a pharhaodd am rai blynyddau ar ol hyny i rodio yn mlaen yn dawel a hyderus at adeg yr ymddatodiad, gan gyflawni yn ffyddlawn wahanol ddyledswyddau bywyd can belled ag yr oedd ei nerth yn caniatau iddo. Byddai yn golygu y Cenhadwr yn ofalus, ond nid yn ysgrifenu rhyw lawer ei hun. Yr oedd yn ymwybodol fod ei nerth yn cilio a'r diwedd yn agoshau. Rhoddwn hanes ei ymadawiad yn ngeiriau ei fab, Mr. Lewis Everett, yn y Cenhadur am fis Mawrth, 1875.

"Bu farw fy anwyl dad am haner awr wedi un—arddeg, boreu dydd Iau, Chwefror 25ain, o pneumonia. Yr oedd yn 84 mlwydd oed er Ionawr 2, 1875. Bu yn lled wael a gwanaidd er ys amryw wythnosau. Effeithiodd gerwinder anarferol y gauaf arno yn bur amlwg. Boreu dydd Sadwrn, Chwef. 13eg, cyn codi, cymerwyd ef gan chill nes yr oedd y gwely yn ysgwyd odditano, a chwynai fod poen mawr yn ei ochr dde. Ni chododd ond am ychydig fynydau y diwrnod hwnw, ond ni adawai i ni geisio meddyg. Dydd Sul daeth Dr. Williams i fyny o'r pentref ar esgidiau eira i'w weled. Dydd Llun hysbysodd y Dr. ni mai y pneumonia oedd ar fy nhad, ac o herwydd ei fawr henaint a’i wendid blaenorol, ei fod yn ofni na fyddai byw ond ychydig ddyddiau. Pellebrwyd yr hysbysiad galarus at fy chwiorydd yn New York a Michigan, ac at fy mrawd yn Kansas. Prysurasant oll adref i weled eu