Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.djvu/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyrau yn hollol glir a digwmwl hyd y diwedd. Rhyfeddai y doctor lawer am hyny, am fod delirium mor fynych yn gydfynedol â'r pneumonia. Claddwyd ef yn barchus y dydd cyntaf o Fawrth.

Mae marwolaeth fy nhad yn ein gadael oll mewn dwfn alar ac yn hiraethlon am fyned ar ei ol i'r nefol wlad. Ond ar fy anwyl fam y mae yr ergyd yn disgyn drymaf, yr hon oedd wedi ei gael yn briod tyner, caruaidd ac anwyl am yn agos i driugain mlynedd."

Gorphwysa ei ran farwol wrth y Capel Uchaf, yn Steuben, a cholofn hardd uwch ei ben yn gofnod o hono.



PENNOD IV.

LLOFFYN O DDYFYNIADAU AM DR. EVERETT.

Dyfyniad o Lythyr Mr. John R. Griffiths, Diacon yn Steuben.

Yr ydwyf yn ei gofio er ys dros haner cant o flynyddoedd, bellach, trwy y byddai yn arferol o ddyfod i Steuben i bregethu yn ei dro, flynyddoedd lawer cyn iddo ddyfod yno i weinidogaethu; a'r bregeth gyntaf wyf yn gofio i mi ddal sylw arni (pan oeddwn yn bur ieuanc), oedd oddiwrth 1 Bren. xviii. 21: "Os yr Arglwydd sydd Dduw, ewch ar ei ol ef," &c. Yr oedd yn egluro ei faterion mor amlwg i brofi mai yr Arglwydd sydd Dduw, ac yn gwasgu mor effeithiol ar ei wrandawyr i fyned ar ei ol ef, fel nas gallasai plentyn, fel fy hunan, ddim peidio ei ddeall, a theimlo.

Yr ydwyf yn cofio yn dda, hefyd, am bregeth a dra