Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.djvu/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddododd yn Steuben, yn niwygiad 1838, ar y testyn hwnw (Preg. xi. 9): "Gwna yn llawen, wr ieuanc, yn dy ieuenctyd," &c. Yn y rhan gyntaf o'i bregeth yr oedd yn caniatau i ddyn ieuanc, os mynai, rodio yn ffyrdd ei galon, ac yn ngolwg ei lygaid, a mynu pob llawenydd a hyfrydwch pechadurus, &c.; ond pan ddaeth i sylwi ar y rhan olaf o'r adnod-"Ond gwybydd," &c.—troes y llawenydd a'r hyfrydwch, a'r dedwyddwch tybiol oeddym wedi gael yn y rhan gyntaf o'r bregeth, yn sobrwydd o'r fath ddwysaf. Yr oedd mor earnest, a mor gynhyrfus ac effeithiol wrth ddarlunio y farn, a'r perygl i ddynion fyned yno yn anmharod, o'r lle mae parodrwydd i'w gael, ac yn anog pawb i geisio parodrwydd, mor daer, fel y parodd i lawer benderfynu ei geisio y noson hono.

Dywedodd dyn pur anystyriol unwaith ar ol ei wrando yn pregethu: "Yr oedd y dyn yna yn siarad fel pe buasai Duw ei hun yn siarad."

Yr oedd yn hynod yn ei ffyddlondeb i fyned at ei gyhoeddiad. Byddai yn myned i Ben-y-mynydd trwy bob math o dywydd, a phan fyddai y ffyrdd bron yn annichonadwy eu tramwy. Cyngorais ef lawer gwaith i droi yn ol (trwy fy mod yn byw ar y ffordd hono), ond yr oedd mor benderfynol fel na thröai byth yn ol nes myned mor belled ag y gallai; a dywedodd wrthyf un tro: "Os ä dyn mor belled ag y medro tua'r nefoedd, bydd yn sicr o gyrhaedd yno."

Dyfyniadau o Lythyr y Parch. J. R. Griffith,
Floyd, N. Y
.

Yr oedd Dr. Everett yn ddyn a neillduolion ynddo yn fwy felly na neb a adnabûm yn America. Yr