i'w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog."
2. Nad oes nemawr o'i gyffelyb mewn gwyliadwriaeth. Yn mhob lle ac yn mhob amgylchiad y byddai ynddo, yr oedd yn rhodio yn ofn yr Arglwydd. Yr oedd yn wyliadwrus yn erbyn pob drwg, ac hefyd yn gwylio am gyfleusderau i wneyd daioni; a thrwy hyny yr oedd yn "halen y ddaear," ac yn "oleuni y byd."
3. Nad oes nemawr o'i gyffelyb mewn dystawrwydd. Un anaml ei eiriau ydoedd bob amser; a chyda'r parch mwyaf iddo, dymunem ddywedyd, ein bod wedi meddwl ambell waith ei fod i'w feio yn hyny. Tuedd y nifer fwyaf o blant Adda yw siarad gormod lawer pryd; ond byddai ef yn ddystaw pan y tybiem y dylasai lefaru. Llawer gwaith mewn cynadleddau crefyddol, byddai hwn a'r llall yn llefaru heb roi dim goleuni ar y mater dan sylw, ac yntau yn gwrando yn ddystaw; ond pan godai i lefaru, fe geid goleuni ar y pwnc, ac yn gyffredin ni wnai neb lefaru ar ei ol. Os oedd yn ddystaw, rhaid addef ei fod yn deall y natur ddynol yn dda, a'i fod yn rhy foneddigaidd i ddiystyru un brawd.
4. Nad oes nemawr o'i gyffelyb mewn addfwynder, tawelwch a llarieidd-dra. Gellir dyweyd am dano fel am y Meistr mawr, ei fod "fel oen." "Addfwyn ydoedd, a gostyngedig o galon." "Corsen ysig nis torai, a llin yn mygu nis diffoddai." Yr oedd fel Ioan, y dysgybl anwyl, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, yr hwn a bwysai ei ben ar ei fynwes, a'r hwn oedd wedi yfed yn helaeth o ysbryd ei Athraw. Yr oedd bob amser fel yr Indian Summer. Nid weithiau yn oer, a phryd arall yn boeth. Gellir yn briodol gymwyso ato eiriau y