ai yn llwyddiant eraill. Byddai y plant bychain yn caru ei weled ef yn anad neb yn dyfod at y tai; rhedent am y cyntaf i gael ysgwyd llaw â Mr. Everett. Nid rhyfedd fod y plant yn hoff o hono, a'i wên siriol, a'i law anwyl, oblegid nid llaw wag ydoedd; byddai wrth ymadael â'r teulu yn cyfranu rhywbeth i'r plant. Dywedir am un gweinidog yn Nghymru, mai adnod fyddai ef yn ei roddi i'r plant; a dywedir am un arall yno, mai ceiniog fyddai ef yn ei roddi; a'r gweinidog fyddai yn rhoddi y geiniog fyddai y plant yn hoffi ei weled. Nid rhyfedd fod y plant bychain yn llawenhau pan fyddai Dr. Everett yn dyfod, gan ei fod yn llawn cystal wrthynt a'r ddau arall, oblegid yr oedd yn rhoddi yr adnod a'r geiniog iddynt. Yr oedd tuedd ei holl ymddygiadau i ddenu dynion i feddwl yn fawr am Grist a'i grefydd. Gellir dyweyd ar ei gareg fedd, "A chyfaill Duw y galwyd ef." Darfu iddo gyflawn ddilyn ei Arglwydd trwy ei oes.
8. Nad oes nemawr o'i gyffelyb mewn ymwadiad. Nid oedd dim ymffrost yn perthyn iddo. Ni ddywedai air byth am dano ei hun. Nid oedd byth am gael y blaen, er y byddai ei holl frodyr am roddi y flaenoriaeth iddo. Y mae ambell i hen weinidog, pan mewn cymanfa a chyfarfod tri-misol, am gael blaenori a threfnu pwy sydd i gael pregethu, fel y gallo ef ei hun gael y lle mwyaf cyhoeddus; ond pell iawn oedd ein cyfaill Everett oddiwrth bob ymddygiad o'r fath. Llawer gwaith y clywsom ef yn dywedyd ar ddechreu cyfarfod, pan fyddai gweinidog y lle yn trefnu iddo bregethu am ddau dranoeth, “O, gadewch i mi gael dyweyd tipyn heno." Yr oedd yn un gostyngedig o galon.