Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.djvu/75

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arogl Crist ydoedd trwy ei fywyd. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."

(4.) Nad yw duwioldeb yn cadw rhag angau.

(5.) Ei bod yn ddiamheuol fod marw yn elw mawr iddo.

(6.) Er fod y gweision yn marw, fod Brenin Seion yn fyw.

(7.) Meddyliwch lawer am y pethau a glywsoch ganddo.

(8.) Fod y Beibl yn llawn o gysur i'w berthynasau a'i gyfeillion. "Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd." Ceir ail-gyfarfod heb ymadael mwy.

(9.) Fod ei farwolaeth yn alwad uchel arnom i fod yn barod. "Y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto."

(10.) Yr ydym wedi coffhau rhai o ragoriaethau ein hen athraw anwyl a pharchus, ond pe byddai ef yn gallu llefaru wrthym heddyw, dywedai yn eglur, "Trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf." Nid yw harddwch a rhagoriaeth y gwas ond adlewyrchiad gwan o berffeithiau a gogoniant y Meistr mawr. Bydd ein hanwyl Dr. Everett ar ddelw hawddgar Iesu am byth. Amen.



Adgofion am y Parch. R. Everett, D. D.

GAN Y PARCH. JAMES GRIFFITHS, SANDUSKY, N. Y.

Anwyl Gyfeillion—Gan eich bod wrth y gorchwyl o wneyd cofiant i'ch parchedig dad, y diweddar Dr. Everett, bydd yn dda genyf os bydd yr ysgrif hon o ryw gymorth i chwi i gyfodi fyny y gof-golofn ydych yn fwriadu.