cwrdd, ond ei fod yn dda, fel arferol. Yr oedd y Parch. R. Everett yn bresenol, o Western, Oneida Co. Dranoeth, am 10, yr oedd dau i bregethu ; ac am 2, yr oedd yr ysgrifenydd a Dr. Everett i bregethu. Yr wyf yn cofio fy nhestyn, " Na ddiffoddwch yr Ysbryd." Wrth siarad am bwysigrwydd dylanwadau yr Ysbryd Glan, eu hanog i'w maethu, a dangos y mawr berygl o'u gwrthwynebu, eu diystyru, neu eu diffodd, daeth gryn deimlad ar y bobl a'r pregethwr, a chollid llawer o ddagrau. Ar ddiwedd y bregeth, dyma Mr. Everett yn cyfodi yn y pwlpud, ac yn dyweyd na wnai ef bregethu, ond yr aem ni i lawr, ac y byddai iddo ef gynyg dull y Saeson o gynal y cyfarfod, gan fod y bobl o dan deimlad fel yr oeddent. I lawr o dan yr areithfa yr aed, ac agorodd y Parch. R. Everett y cwrdd, trwy alw y bobl i edifeirwch am eu clauarineb mewn crefydd, eu bydolrwydd, eu hesgeulusdra, a'u difaterwch gyda chadwedigaeth dynion, ac yn enwedig eu perthynasau a'u plant, a cheisiodd gan y gynulleidfa fyned ar eu gliniau, a galwodd ar Rowland Griffiths a John Rees i weddio am edifeirwch a maddeuant o'r holl bechodau. Aeth y gynulleidfa ar eu gliniau, a daeth yr aelodau oll o'r llofft i lawr, a llanwyd yr aisles rhwng yr eisteddleoedd yn dyn, a phawb ar eu gliniau, ac yr oedd yr olwg ar y ddau hen wr yn gweddio yn olwg orlawn o ddifrifwch. Mr. Rowland Griffiths, pregethwr cynorthwyol er dechreuad yr achos yno, ac un o sefydlwyr gwreiddiol yr achos Annibynol yn Dinas Mawddwy, G. C.; a John Rees, hen ddiacon yr eglwys, yn gloff, ac yn arfer dwy ffon i gerdded, a phwys ei ddwylaw ar ei ffyn, a'i wyneb tua'r nef, a dwy ffrwd o ddagrau yn treiglo dros ei ruddiau, yn
Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.djvu/83
Prawfddarllenwyd y dudalen hon