o'n teulu ni yn myned i Steuben, oddieithr fy mam. Teithiasai hi yno am flynyddau yn ffyddlon, trwy braidd bob tywydd, ar ei thraed, ac yr oedd ei meddwl wedi ymgylymu yn dyn a'r eglwys yno. A chryn aberth iddi oedd ffarwelio â'r brodyr a'r chwiorydd yn yr hen gartref, yr oedd bellach wedi ymsefydlu ynddo, ac ail-ffurfio cysylltiadau newyddion, a dechreu byw o'r newydd megys, yn eglwys ieuanc Bethel, Ond yr oedd mor bell i gerdded i Steuben, ac mor agos a chyfleus i Bethel, fel y penderfynodd o'r diwedd ganu yn iach i'w hen gyfeillion hoff yn y "Capel Ucha"," er, fel Orpah gynt, dan wylo, ac yr ymgysylltodd a'r eglwys yn Bethel, lle yr ymgartrefodd yn fuan eto, fel mai croes drom iddi ydoedd ymadael oddiyno wedi hyny i Waterville, lle y gorphenodd ei gyrfa ddaearol.
Felly o herwydd ein mynediad i Bethel, nid oeddwn mewn cyfleusdra i glywed Mr. Everett ond pan ddeuai yn achlysurol yno i gyfarfod chwarterol neu arall, neu ynte ar gyfnewid â Mr. Roberts, am Sabboth. Ond y mae genyf hyd heddyw adgof lled dda am rai pregethau a glywais ganddo pan oeddwn yn lled ieuanc. Un oedd oddiar Diar. iii. 13-18, a draddodwyd bellach er ys agos i bymtheg-mlynedd-ar-hugain yn ol, yn yr hon yr uchel-ganmolai grefydd fel "Doethineb;" ac y cymellai hi ar bawb fel y "trysor gwerthfawrocaf." Sylwai:
I. Ar y ddoethineb a nodir. Ac mewn ffordd o eglurhad darllenodd Diar. i. 7, a Job xxviii. 12—28; a dywedai mai gwir grefydd a olygid.
II. Y ganmoliaeth a roddir i'r ddoethineb hon. Ac aeth dros y gwahanol bethau a ddywedir yn y testyn o adnod i adnod, yn addysgiadol a dyddorol iawn.