wrthodwyr egwyddorol er pan wyf yn cofio, ac yr oedd ganddynt air mawr i "bregeth Mr. Everett," fel y galwent yr anerchiad. Ac wrth geisio sillebu allan yr anerchiad hwnw y cefais fy syniadau cyntaf am fawr ddrygedd anghymedroldeb a meddwdod, ac nis gwn i ba raddau yr wyf yn ddyledus iddo am fy nghadw hyd yma rhag syrthio, fel llawer o'm cyfoedion, yn ysglyfaeth i'r gelyn a'r dinystrydd meddwol. Llwyr argyhoeddwyd fi yn fy mlynyddoedd boreuol hyny mai llwyr—ymwrthodiad â'r diodydd syfrdanol oedd yr unig sicr ddiogelwch rhag meddwdod, ac o hyny hyd yn awr yr wyf wedi cael fy nghadw o afael y brofedigaeth o yfed gwirod o un math erioed, fel diod.
Cyn hir ar ol cychwyniad y Cenhadur dechreuodd y cyffroad gwrthgaethiwol gynhyrfu y wlad. Yn wir, ceir yn y rhifyn cyntaf oll o hono ysgrifau ar gaethiwed a dirwest; y gyntaf gan Cadwaladr Jones, y pryd hwnw o Cincinnati, Ohio, ond yn awr o Lanfyllin, Cymru; a'r olaf gan y Parch. Samuel Roberts, Llanbrynmair, (S. R.), o'r Dysgedydd. Felly cymerodd y Cenhadwr ar unwaith safle ddiamwys a phenderfynol yn erbyn caethiwed a meddwdod—yn erbyn y fasnach mewn dynion duon; ac yn erbyn y fasnach mewn gwirodydd i ddinystrio dynion duon a gwynion. Ac "arhôdd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylaw a gryf hasant, trwy ddwylaw grymus Dduw Jacob," hyd nes y difodwyd caethwasiaeth o'r wlad, y drylliwyd cadwynau trais, ac y gollyngwyd y gorthrymedigion yn rhyddion. Gobeithio na laesa ei ddwylaw, ac na lwfrhâ, eto, hyd nes y bydd y fasnach mewn diodydd meddwol hefyd wedi ei hollol wahardd yn mhob rhan o'r wlad.