ofal a nawdd y Parchn. Robert Everett a Morris Roberts, yn un benaf ragorfreintiau fy mywyd. Mor gynes oedd eu serchogrwydd at yr ieuanc! Mor fawr oedd eu cydymdeimlad â'r gwan! Mor dyner a charedig, ac eto mor ffyddlon a' di-dderbyn-wyneb y cyngorent yr anmhrofiadol! Ac mor barod oeddynt bob amser, eu dau, i galonogi y llwfr a digalon! Mawr deimlaf fy ngholled am eu cymdeithas adeiladol, ac aml y daw teimlad o brudd-der drosof, wrth gofio na châf eu cyfarfod byth mwyach ar y ddaear. I Dduw pob gras y byddo diolch am obaith gwan gael eu cyfarfod eto mewn gwlad sydd well, lle y bydd yr adnabyddiaeth yn berffeithiach, yr wybodaeth yn llawnach, y mwynhad yn fwy ysbrydol a phur, a'r gymdeithas felus yn wastadol a diddarfod!
"Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd,
Yn Salem fry oddeutu'r bwrdd."
Braslun o Gymeriad Dr. Everett.
GAN Y PARCH. H. E. THOMAS, D. D., PITTSBURGH, PA.
Ni pherthyn i mi fyned yn fanwl trwy symudiadau hanes bywyd Dr. Everett, ond cyfeiriaf yn fyr at rai o'r llinellau hyny oeddynt yn hynodi ei gymeriad. "Gwr Duw," ysgrythyrwr cadarn, ysgolaig coeth, gwyliwr ffyddlon yn Seion, ysgrifenydd medrus, a dyn cenedl oedd Dr. Everett. Gellir dyweyd yn ddibetrus iddo adael argraff ar feddwl pawb yn nechreu ei weinidogaeth yn Ninbych, a pharhau i ddyfnhau yr argraff hono hyd derfyn ei weinidogaeth yn Steuben, ei fod yn ddyn duwiol ac yn weinidog da i Iesu Grist. Ei dduwioldeb oedd llinell flaenaf, a choron ei gym-