y bêl a'u holl egni, hyd yn nod ar bared yr annedd gysegredig; ac eraill yn fawr eu lludded a ymlidient y bêl droed, gan anafu eu gilydd yn yr ymrysonfa, Treuliai eraill y Sabbath yn y tafarndai, i ymdrybaeddu mewn meddwdod hyd dranoeth, ac yn fynych ni orphenid y cyfarfodydd annuwiol hyn heb ymladdfeydd gwaedlyd. Mewn gair yr oedd y bobl yn eistedd mewn tywyllwch, yn mro a chysgod angau, a'r pethau a berthynant i'w tragwyddol heddwch yn guddiedig oddi wrth eu llygaid!
Yn y flwyddyn 1742, symudodd un William Pritchard o Glasfrynmawr, yn mhlwyf Llangybi, i Blas Penmynydd, Mon. Efe oedd seren foreu y diwygiad Ymneillduol yn y wlad hon. Yr oedd Mr. W. Pritchard mewn undeb a'r Eglwys Annibynol yn Mhwllheli, a pharhaodd mewn undeb a'r enwad hyd ei fedd. Yn fuan ar ol ei ddyfodiad i Benmynydd, llwyddodd i gael trwydded ar dŷ o'r enw Minffordd, i bregethu ynddo. Ar ei gais ef y daeth yr hybarch Lewis Rees, gweinidog yr eglwys gynulleidfaol yn Llanbrynmair y pryd hwnw, i bregethu i'r lle hwn; a dywedir mai dyma y cyfarfod crefyddol cyntaf a gynaliwyd gan yr Ymneillduwyr yn ynys Môn. Tebygai y cyfarfod bythgofiadwy hwnw mewn rhai pethau i gyfarfod mawr dydd y Pentecost. Rhai "a synasant ac a ammheuasant" "eraill a watwarasant," ond teimlodd amryw ddylanwad y "peth" hwnw a ragddywedwyd am dano trwy y prophwyd Joel, yn "dwysbigo eu calonau; ac ofn a ddaeth ar bob enaid." Dywedir yn hanes bywyd y Parch. Lewis Rees, fod ei weddi ar y pryd wedi cynyrchu argraffiadau dwysion ar rai o'r terfysgwyr, fel nad oedd nerth yn eu dwylaw i godi yn ei erbyn; ac i amryw o honynt gael agor eu calonau i ddal ar y pethau a lefarid. Derbyniasom yr hanesyn dyddorol a ganlyn, am effeithiau daionus y cyfarfod rhag-grybwylledig, oddi wrth y Parch. David Beynon, Nantgarw, Yn y flwyddyn 1814, pan oedd y diweddar Dr. Arthur Jones, Bangor, ar daith yn Mon, pregethodd am ganol dydd mewn tŷ a elwir Hafod, yn mhlwyf Llangwyllog. Aeth Mr. Beynon yno i'w gyfarfod. Yr oedd hen wr yr Hafod yn gristion cywir, ac ar y pryd yn bur oedranus, ac yn hollol ddall. Yn ei ymddiddan a Mr. Jones, adroddodd mewn dull effeithiol iawn hanes ei droedigaeth. Cymerodd hyny le, meddai, o dan bregeth Lewis Rees y waith gyntaf yr ymwelodd a Mon, yn ymyl y Minffordd yn mhlwyf Penmynydd. Yna aeth yn mlaen a'r hanes fel y canlyn. "Ni bu Saul o Tarsus erioed yn fwy penderfynol i garcharu disgyblion Iesu nag oeddwn i a'r fintai erledigaethus oedd wedi ymgasglu, gyda phas-