tynau, i gyfarfod y pengrwn oedd i ddyfod i bregethu yn Mhenmynydd. Yr oeddym oll wedi cytuno, os efe a bregethai, y gwnaem ben am dano rhag blaen. Ac wedi iddo ddyfod yno, dechreuasom wasgu yn mlaen tuag ato, a phan aeth i ben hen gareg fawr yn ymyl yr hen dŷ hwnw (Minffordd), trodd ei wyneb tuag Arfon a rhoddodd y penill hwnw i'w ganu gan ryw nifer fechan oedd yn ei ganlyn:—
Disgwyliaf o'r mynyddoedd draw,
Lle daw i'm help 'wyllysgar," &c.
Ninau yn tybied mai disgwyl gwyr arfog o fynyddoedd Arfon yr oedd ef, a giliasom rhyw ychydig oddi wrtho. Ac wedi ymgynghori' penderfynodd rhai o honom gael clywed beth oedd gan y pengrwn i'w ddyweyd, ac felly ni aethom dros y clawdd yr ochr isaf i'r ffordd, a cherddasom yn araf a distaw yn nghysgod y clawdd, hyd nes y daethom ar gyfer y man lle y safai. Nid oedd ef yn gallu ein gweled ni, ac nid oeddym ninau am ei weled yntau, ond yr oedd ym yn clywed pob gair a ddywedai mor eglur a phe buasem yn ei ymyl. O dan y bregeth hono, ar y diwrnod rhyfeddaf yn fy oes, y daethum i adnabod fy hun fel pechadur colledig, yn mhob man, ac er pob dim, oddi allan i Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio. Diolch iddo byth, am fy nghipio fel pentewyn o'r tân."
Aeth rhai blyneddau heibio cyn adeiladu un capel a elwid yn briodol felly, yn yr holl wlad. Arferid pregethu yn achlysurol yn y Mirffordd gan bregethwyr dieithr a ymwelant a'r ynys. Rhydd y Parch Peter Williams, yr hanes a ganlyn am ei ymweliad a Môn yn y flwyddyn 1746. "Aethum yno (meddai) wedi cael hanes pregethwr o swydd Arfon, yr hwn a aethai i'r wlad hono; ymholais, a chefais ei fod yn dywedyd yn erchyll am wyr Mon, a'r cynlluniau ofnadwy oedd ganddynt yn erbyn pregethwyr teithiol, a'r rhai a fyddant yn eu canlyn. Pa fodd bynag anturiais bregethu ar hyd y bryniau, yma ac acw, lle bynag y gallwn gael pump neu chwech o wrandawyr yn gynnulledig, ond y bob! a ddaethant o bob man, gan lefain y naill wrth y llall, "un o'r penau-gryniaid a ddaeth i'n plith i bregethu." Dechreuais lefaru mor gynted ag y gallwn, ac ni arhosais i lawer o honynt ymgasglu. Deallais trwy hyfryd brofiad, os gallwn enill clustiau y bobl, y cawn hefyd eu calonau, ac na fyddai yn hoff ganddynt erlid mwyach. Fel hyn daeth rhai o honynt o radd i radd, yn lled fwynaidd; a daeth rhai o'r tlodion, ac o'r bobl o sefyllfa ganolig, i ofyn i mi ddyfod atynt i letya, a bod i mi groesaw o'r fath le ag oedd ganddynt hwy. Mewn