canlyniad i ymweliadau gweinidogion a phregethwyr o siroedd eraill a'r ynys, lliniarwyd i raddau mawr y dymher erledigaethus yn mysg y "tlodion" a'r bobl "ganolig." Cofrestrwyd amryw dai anedd mewn gwahanol barthau o'r wlad, i gynal moddion crefyddol ynddynt, a bendithiwyd yr ynys cyn hir ag adfywiadau crefyddol lled nerthol. "Yr amser i drugarhau wrth Sion, ïe, yr amser nodedig a ddaeth: oblegid yr oedd ei weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi." Yr oedd y dychweledigion cyntefig yn hynod am eu diwydrwydd gyda phob moddion o ras, nid yn unig yn gartrefol, ond arferent deithio yn mhell i wrandaw gair y bywyd. Hefyd, ar ol gwrandaw gwirioneddau yr Efengyl, y rhai a gyfrifid ganddynt yn werthfawrocach nag aur coeth lawer; ymddiddanent am danynt "gan ddal yn well ar y pethau a glywsant, rhag un amser eu gollwng hwy i golli." Yr oedd undeb a brawdgarwch yn ffynu yn eu plith mewn modd anghyffredin. Cymerodd llawer o honynt eu colledu yn eu hamgychiadau bydol, yn hytrach nag ymostwng i draws-arglwyddiaeth gelynion crefydd. Ar un adeg, "galwyd rhyw nifer o'r rhai oeddynt yn caru crefydd, o flaen eu meistr tir, i Blas Lleugwy, lle yr oedd amryw o eglwyswyr wedi dyfod ynghyd. Gofynwyd iddynt, pa un a wnant, ai gadael crefydd, ai colli eu tyddynod? Atebodd y trueiniaid, mai colli eu trigfanau a ddewisent yn hytrach na gwadu eu Harglwydd. Yr oedd un o honynt yn bur dlawd. Methodd hwn ymatal, ond torodd allan i lefain yn mharlwr y gwr boneddig, ac i neidio yn ei glocsiau, gan waeddi; yn wir, y mae Duw yn anfeidrol dda i mi; gogoniant byth, diolch iddo! Enill tyddyn, a cholli teyrnas na wnaf byth! Parodd yr olygfa syndod aruthrol i'r boneddwyr, eto, eu troi allan o'u tyddynod a wnaed." [1]
Mewn lle a elwid Caeaumon, yn nhy un John Owen, y ffurfiwyd yr eglwys Annibynol gyntaf yn yr ynys, tua'r flwyddyn 1744. Hon oedd yr eglwys Ymneillduol gyntaf yn Mon. Adeiladwyd addoldy Rhosymeirch yn y flwyddyn 1748. Cydgynullai y gwahanol lwythau Ymneillduol i'r lle hwn, am amryw o flyneddau cyn iddynt adeiladu capeli iddynt eu hunain mewn manau eraill yn yr ynys. Cyfeiriwn y darllenydd am wybodaeth helaethach ar hyn, i hanes Ebenezer, Rhosymeirch. Ymddengys oddiwrth yr hanes dilynol, mai trwy lafur egniol, ac er gwaethaf rhwystrau ac anfanteision mawrion, y dygwyd ein gwlad i'r agwedd grefyddol a welir arni yn ein dyddiau ni. Na feddyliwn
- ↑ Methodistiaeth Cymru, CYF. I. tudalen 113,