Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod y gwaith wedi ei orphen. Na, y mae tir lawer eto heb ei feddianu. Mae yn wir y gall yr eglwysi Annibynol yn Mon, ddyweyd fel Sïon gynt, "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion am hyny yr ydym yn llawen." Ond dylem "lawenhau mewn dychryn " o herwydd mae llygredigaethau yr oes eto yn gryfion, a'r gelyn ddyn yn brysur wrth y gwaith o hau efrau yn mhlith y gwenith. Cofiwn fod y rhyddid crefyddol a fwynheir genym yn werth gwaed llaweroedd o'n henafiaid, a pharchwn eu coffadwriaeth trwy wneyd iawn ddefnydd o'r breintiau sydd yn ein meddiant. Glynwn yn ddiysgog wrth yr egwyddorion hyny sydd wedi ein derchafu eisioes i anrhydedd arbenig fel enwad crefyddol, ac yn benaf oll "Ymnerthwn yn yr Arglwydd, ac yn nghadernid ei allu ef. Amddiffyniad y Goruchaf fyddo dros ei waith yn mysg pob enwad crefyddol yn yr ynys, fel y gweler ei effeithiau "er mawl gogoniant ei râs ef" y dydd ofnadwy hwnw a ddesgrifir gan ein Prif-fardd:

"Pan fo Môn a'i thirionwch,
O wres fflam yn eirias fflwch;
A'i thorog wythi arian,
A'i phlwm a'i dur yn fflam'dân."