Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES

DECHREUAD A CHYNYDD

YR EGLWYSI ANNIBYNOL

YN MON.


EBENEZER,

RHOSYMEIRCH.

EBENEZER! Y mae swyn yn yr enw. Gellir meddwl fod yr hen bererinion a fuont yn offerynol i godi yr addoldy hwn yn ngwyneb rhwystrau anghyffredin, yn dewis iddo fod yn goffadwriaethol o waredigaethau aml, a gofal neillduol yr Arglwydd am danynt, yn yr amserau helbulus hyny. I'r lle hwn y dygasant Arch yr Arglwydd, ac a adeiladasant Dŷ i'w enw, gan ddatgan yn weithredol "hyd yma y cynnorthwyodd yr Arglwydd nyni."

Ychydig a wyddom am ddechreuad yr achos Santaidd yn y lle hwn. Dywed y Parch David James, gweinidog presenol y lle, mai yr eglwys a gyfarfyddai yn nhy un John Owen, Caeaumon, oedd yn gofalu yn benaf dros adeiladu yr addoldy cyntaf. Cymerodd hyny le yn y flwyddyn 1748. Ar ol gorphen yr addoldy, symudodd yr eglwys fechan o Caeaumon, i'r lle hwn. Y rhai mwyaf cyhoeddus gyda'r achos y pryd hyny, oeddynt John Hughes, Rhydyspardyn; John Roberts, Dafarn-newydd; William Pritchard, Bodlewfawr (gynt o Plas Penmynydd); a John Owen, Caeaumon. Prynodd y Parch Jenkyn Morgan (gweinidog cyntaf yr eglwys hon) dyddyn bychan o'r enw Tynyreithnen, lle yr adeiladwyd yr addoldy. Gwnaeth yr erlidwyr eu goreu yn yr adeg hono, i geisio rhwystro y gwaith i fyned rhagddo, trwy dynu i lawr yn ystod y nos yr hyn a adeiledid gan y bobl y dydd, ond mewn canlyniad i ffyddlondeb a diwydrwydd yr ychydig gyfeillion yn y lle, llwyddasant o'r diwedd i orphen yr adeilad. Yma y cafodd y Methodistiaid Calfinaidd a'r Bedyddwyr, nodded ac ymgeledd dros lawer o flynyddau, cyn iddynt adeiladu capeli iddynt eu