Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hunain, Yr oedd Addoldy Rhosymeirch yn agored i bregethwyr y gwahanol enwadau, pa rai yn fynych a ymwelant a Môn yr adeg hono; a derbynid y cyfryw gan yr eglwys a'r gynulleidfa gyda'r sirioldeb mwyaf. Yr oeddynt yn barod i groesawu pawb oedd 66 yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb." Dywedir i'r Parchn John Wesley a George Whitfield, ymweled a Rhosymeirch rai gweithiau ar eu ffordd i'r Iwerddon, a lletyant yr adegau hyny yn Rhydyspardyn. Nis gallwn ddyweyd faint oedd traul adeiladu yr Addoldy cyntaf na'r un presenol, ond gallwn gyhoeddi yr hyn sydd yn llawer mwy pwysig yn ein tyb ni, sef, nad oes dim dyled yn bresenol.

Y gweinidog sefydlog cyntaf fu yma oedd y Parch Jenkyn Morgan, Daeth i'r wlad hon trwy ddylanwad Mr. William Pritchard. Yr oedd Mr. Morgan ar un adeg yn cadw un o ysgolion rhad y Parch Griffith Jones, Llanddowror, mewn man gerllaw y Bala. Ar ymweliad y Parch Lewis Rees a Phwlleli un tro, bu i Mr. W. Pritchard (y pryd hwnw o Glasfrynmawr) a'i gyfeillion, gwyno wrtho ei bod yn isel ac yn ddigalon arnynt hwy, neb o'r newydd yn dyfod atynt, a'r gwrandawyr yn lleihau. Cynghorodd yntau hwy i anfon am Jenkyn Morgan, i gadw ysgol yn yr ardal, ac i gynghori ar hyd y cymmydogaethau. Ac felly y bu. Daeth Mr. Morgan i'r Glasfrynmawr, a bu yn ddiwyd iawn dros dymor fel ysgol feistr, a phregethai yn achlysurol. Ar ol ymadawiad Mr. W. Pritchard i'r wlad hon, deuai Mr. Morgan yn fynych i ymweled ag ef, ac mewn undeb a'r eglwys fechan yn Caeaumon, anturiodd ar y gwaith o adeiladu capel Rhosymeirch, lle y bu yn llafurio yn llwyddianus am ynghylch 20 mlynedd. Symudodd oddiyma i'r Deheudir, lle y gorphenodd ei yrfa. Ar ei ol ef, bu bugeiliaeth yr eglwys am ryw yspaid o dan ofal y personau canlynol Y Parch Zaccheus Davies, yr hwn a gyfrifid yn ysgolhaig gwych ac yn bregethwr da. Y Parch William Jones, yr hwn a symudodd oddi yma i Fachynlleth, a dywedir i angeu roddi terfyn ar ei oes ddefnyddiol, yn mhen tua dwy flynedd ar ol ei ymadawiad. Yn y flwyddyn 1784. daeth y Parch. Benjamin Jones, o Bencader, Sir Gaerfyrddin, i'r ardal hon. Bu yma yn gweinidogaethu am saith mlynedd. Cynyddodd yr eglwys yn fawr o dan ei weinidogaeth. Llafuriodd hefyd yn llwyddianus mewn ardaloedd eraill yn yr ynys. Efe a ddechreuodd yr achos yn Beaumaris, y Talwrn, a Phentraeth. Bu hefyd yn offeryn defnyddiol iawn yn nghychwyniad yr achos yn Ceirchiog, Caergybi, a'r Groeslon. Yr oedd yr Anibynwyr yn y