Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfnod hwn yn llawer mwy lluosog na'r un enwad arall yn Mon. Yn y flwyddyn 1791, symudodd Mr. Jones i Bwllheli, lle y treuliodd weddill ei oes. Dywedai tua diwedd ei oes, ei fod yn amheus a ydoedd wedi gwneyd yn ei le i ymadael o Fon, lle yr oedd mor gymeradwy a llwyddianus. Y gweinidog nesaf oedd y Parch Abraham Tibbot, yr oedd yn nai i'r hybarch Richard Tibbot o Lanbrynmair. Yr oedd Mr. Tibbot yn bregethwr galluog a phoblogaidd. Ar ol gweinidogaethu yn y lle hwn am dymor lled fyr, rhoddodd angau derfyn disymwth ar ei fywyd. Pan yn myned at ei gyhoeddiad un boreu Sabbath i Landdeusant, syrthiodd oddiar ei farch mewn llewyg, a bu farw rhwng Bodffordd a Llanerchymedd. Yn y flwyddyn 1798, cymerwyd gofal yr eglwys gan y Parch Jonathan Powell, o Rhaiadr-wy. Bu yma yn llafurio am 23 o flynyddau. Yn mis Hydref 1821, gorfodwyd ef gan afiechyd i roddi ei weinidogaeth i fynu. Bu farw, Gorphenaf, 1823. Yr oedd Mr. Powell yn bregethwr effeithiol iawn, ac yn llawn o arabedd (wit) yn ei ymddiddanion. Un tro pan yn cychwyn i daith, ac yn myned heibio i dŷ a elwir y Cytiau, digwyddodd fod y wraig, Margaret Evans, wrth y drws ar y pryd; a dywedodd wrtho, "Wel, yr ydych yn myned heddyw eto Mr. Powell," "Ydwyf," ebe yntau, "yn myned ar ol gofid, A welsoch chwi ef yn myned heibio, Marged fach ?" "Naddo yn siwr Mr. Powell," ebe hithau, "fydd o byth yn myned heibio heb alw i mewn." Un boreu Sabbath, pan oedd Mr. Powell yn myned at ei gyhoeddiad i Rhos y meirch, digwyddodd fod y Parch. Christmas Evans yn bedyddio yn afon y Pandy, gerllaw Llangefni. Ymddengys fod Mr. Evans mewn hwyl anghyffredin ar y pryd. Cyfeiriodd Mr. Powell at yr amgylchiad yn ei bregeth y boreu hwnw, ebe efe, "Pan yn teithio tuag yma heddyw, clywais un yn gwaeddi, Yn mlaen yr elo yr ail-fedydd;' dywedaf finau, Yn mlaen yr elo yr ail-eni." Ar un adeg, mewn Cymdeithasfa a gynhelid gan y Methodistiaid Calfinaidd yn Llangefni, diolchai yr hybarch Robert Roberts, Clynnog, am "fod gwyneb Môn ac Arfon arnynt hwy yr hen Fethodistiaid." Yr oedd Mr. Powell yn pregethu y Sabbath canlynol yn Rhosymeirch, a dywedai, "Clywais ddiolch yn ddiweddar am wyneb gwlad, ond edrychwn ar Eglwys Dduw yn yr Aipht, ac yn Babilon; ai gwynebau yr Aiphtiaid a'r Babiloniaid oedd arni? nage: eu cefnau, ond yr oedd gwyneb Duw arni. Y mae yn beth anrhaethol mwy gwerthfawr i ni, garedigion, gael gwyneb Duw arnom na gwyneb gwlad." Ar ol Mr. Powell,