daeth y Parch. David James yma. Dechreuodd ar ei weinidogaeth yn Rhosymeirch, Capelmawr, a Sardis, Hydref 13eg, 1822; ac wedi cael help gan Dduw, y mae yn aros hyd y dydd hwn. Y mae Mr. James wedi gwasanaethu yr eglwysi uchod yn ffyddlon a gofalus, am y tymor hilfaith o 40 mlynedd.
Bu gwahanol dymorau ar yr eglwys hon; gwelwyd yr achos yn lled isel rai prydiau, yn enwedig, ar ymadawiad rhai o'r aelodau i sefydlu achosion newyddion mewn ardaloedd eraill. Gangenau o eglwys Ebenezer ydynt y Capelmawr, Sardis, Rhosfawr, Penmynydd, a manau eraill. Y mae yr eglwys hon wedi bod yn hynod o heddychol o'i sefydliad cyntaf hyd yn bresenol. Efallai y dylem grybwyll am ddwy ddadl a gyfododd yn yr eglwys yn amser y Parch. Benjamin Jones. Testyn y ddadl gyntaf ydoedd "Personau y Drindod." Ysgrifenodd Mr. Jones lyfr bychan ar y pwnc, yr hwn a fu yn foddion i ddwyn y ddadl i derfyniad buan. Yn mhen enyd, drachefn, cyfododd dadl arall ar fater mwy athronyddol, sef, "Fod dyn yn gyfansoddedig o dair rhan, corff, enaid, ac ysbryd." Terfynwyd y ddadl hon hefyd yn heddychol trwy ddoethineb a mwyneidd-dra eu gweinidog. Deallwn fod y dadleuon hyn yn cael eu dwyn yn mlaen mewn ysbryd efengylaidd, ac nad oedd dim ynddynt yn tueddu i archolli teimladau neb o'r frawdoliaeth, nac i aflonyddu heddwch yr eglwys. Codwyd amryw o bregethwyr yn yr eglwys hon; un oedd Mr. Hugh Thomas, gynt o Dreforllwyn, a thaid i'r presenol Mr. O. Thomas, Caergybi. Derbyniodd Mr. Thomas addysg ragorol yn moreu ei oes, ac anfonwyd ef gan ei rieni i Gaer, gyda'r bwriad o'i ddwyn i fynu yn feddyg. Ar ol dychwelyd i gymydogaeth Rhosymeirch, cyflawnai y swydd o oruchwyliwr dros ei feistr tir, a gweithredai fel meddyg yn achlysurol. Dywedir ei fod yn Gristion didwyll, ac yn nodedig o ffraeth fel pregethwr. Teithiodd lawer i bregethu yr efengyl, a derbynid ef yn groesawgar pa le bynag yr elai. Coffeir am dano yn cadw ŵylnos mewn tŷ yn nghymydogaeth Gwalchmai, lle yr oedd pedwar yn feirw ar y pryd. Yr oedd hyny yn adeg y "pigyn mawr" yn Mon. Bu Mr. Thomas yn pregethu am ysbaid 15eg mlynedd, a bu farw o'r ddarfodedigaeth yn y flwyddyn 1800, yn 42 mlwydd oed. Gadawodd weddw a 12eg o blant i alaru ar ei ol; o barch i'w goffawdwriaeth, claddwyd ef yn nghapel Rhosymeirch. Yma hefyd y codwyd y Parchn. Robert Hughes, yr hwn sydd yn gweinidogaethu yn Saron a'r Bontnewydd, Arfon; a Hugh Parry (Cefni Mon), yr hwn