Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd yn bresenol yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn Nhalybont, sir Aberteifi. Rhifedi presenol yr aelodau yw 70, yr Ysgol Sabbathol 80, y gynulleidfa 130.

Yn y gladdfa henafol a berthyn i'r addoldy hwn, y gorwedd gweddillion marwol lluaws o ffyddloniaid Sïon. Y mae llawer o lwch aur y rhai fu yn cychwyn yr achos Ymneillduol yn Mon yn gorwedd yn y llanerch gysegredig hon. Yma y claddwyd yr anghydmarol William Pritchard, Clwchdernog, ar ol treulio oes lafurus yn ngwinllan ei Arglwydd. Yma y gorphwys y Parch. Abraham Tibbot, a'r Parch. Jonathan Powell, y rhai a fuont yn ffyddlon yn eu tymor dros Dduw a'i waith. Yma y claddwyd yr hen bererinion Thomas Jones, Llanddaniel (Methodist), a Thomas Jones, Penmynydd. Yma y gorwedd y Parch. William Roberts, Groeslon, yr hwn a fu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb, yn 38 mlwydd oed. Yma hefyd y gorphwys ein serchog frawd y Parch. Llewelyn Samuel, Bethesda, Arfon; a Mr. John Evans, mab y diweddar Barch. John Evans, Amlwch, yr hwn oedd yn ddyn ieuanc doniol a gobeithiol iawn. Buasem yn hoffi gallu cofnodi enwau yr hen ddiaconiaid, a'r aelodau crefyddol sydd wedi eu claddu yn y lle hwn, ond nid ydynt wrth law genym; credwn eu bod oll yn ysgrifenedig yn Llyfr Bywyd yr Oen: "Gwyn eu byd y meirw, y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorphwysont oddi wrth eu llafur, a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt."

CAPEL MAWR.

CYNELID cyfarfodydd crefyddol yn yr ardal hon am rai blynyddau cyn adeiladu yr un addoldy, sef yn Ceryg-gwyddel, yn mhlwyf Cerygceinwen, ac yn y Tŷ gwyn, yn mhlwyf Llangadwaladr. Cofrestrwyd y lleoedd hyn i gynal moddion crefyddol ynddynt. Ffurfiwyd eglwys yn un o'r manau a enwyd tua'r flwyddyn 1763, os nad yn gynt. Y personau canlynol oeddynt yr aelodau cyntaf a gyfamodasant a'n gilydd, ac â'r Arglwydd i gychwyn yr achos yn y lle:-William Parry, Tŷ gwyn (yr hwn a bregethai yn achlysurol); Hugh Williams, College, Llangadwaladr; Owen Jones a'i wraig, Ceryg-gwyddel; Dafydd Abraham, y Llôg; Owen Roberts, Tynypwll; William Jones, Tyrhyswyn; Thomas Parry, Tanylan (wedi hyny Cerygengan); John Jones, Tyddyn-domos; a Mrs. Thomas, Tanylan.