Yn mhen rhyw ysbaid o amser, daeth amryw eraill yn mlaen i ym. uno â'r ddiadell fechan, ac yn eu plith Mrs. Hughes o'r Plascoch, yr hon a gyfrifid yn wraig rinweddol a defosiynol iawn. Yr oedd Mrs. Hughes yn ferch i Mr. W. Pritchard, Clwchdernog, a hi yn unig o'i holl ferched ef a ymunodd â'r Annibynwyr; yr oedd y lleill yn aelodau parchus gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Gwahoddwyd y Parch. Jonathan Powell i bregethu yn ŵylnos Mrs. Hughes; ei destyn oedd Diar. xxxi. 29, "Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll." Awgrymai yr hen frawd ar ei bregeth fod ei chwiorydd wedi dewis yn dda, ond ei bod hi wedi rhagori arnynt oll. Buwyd yn pregethu ac yn cynal cyfarfodydd neillduol yn Ceryggwyddel a'r Tŷ gwyn am oddeutu 10 mlynedd cyn adeiladu y capel. Y rhai oedd yn gofalu yn benaf dros y gwaith o adeiladu yr addoldy cyntaf, oeddynt, John Owen, Caeaumôn; Owen Jones, Ceryggwyddel; William Parry, Tŷ gwyn; a Thomas Parry, Tanylan Gweithredai John Thomas, Ysw, o Tanylan, fel arolygwr ar y gwaith. Yr oedd Mr. Thomas yn ŵr cyfoethog; ac er nad oedd yn aelod o'r eglwys fechan, eto, yr oedd ei hynawsedd a'i garedigrwydd tuag at y frawdoliaeth yn fawr. Yr oedd ei wraig yn ddynes dduwiol iawn, a gellir meddwl ei bod yn dylanwadu ar ei gŵr cr daioni, Hefyd, yr oedd y rhagddywededig Thomas Parry yn ngwasanaeth Mr. Thomas, fel prynwr ŷd iddo, ac o herwydd ei fywyd dichlynaidd, a'i onestrwydd fel goruchwyliwr, yr oedd yn gymeradwy iawn yn ngolwg ei feistr. Gan na wnaed unrhyw gofnodiad ar y pryd o'r treuliau cysylltiedig ag adeiladu yr addoldy cyntaf, nis gallwn ddyweyd faint a gostiodd, na'r modd y talwyd am dano. Yn y flwyddyn 1812, gwnaed adgyweiriad trwyadl arno, a rhoddwyd corau (pews) ynddo am y waith gyntaf; yr oedd y draul yn £70, a thalwyd y cyfan allan o drysorfa yr eisteddleodd. Dangosodd Mr. Thomas Parry, Cerygengan, garedigrwydd mawr tuag at yr achos yn yr amgylchiad hwn, trwy roddi benthyg yr arian a nodwyd, a boddloni i'w cymeryd yn ol mewn symiau bychain oddi wrth yr eisteddleoedd. Adeiladwyd yr addoldy helaeth presenol yn y flwyddyn 1834, o dan olygiad Mr. John Thomas, Presiorwerth; Mr. Richard Hughes, Plasbach; Mr. Henry Parry, Fferambaili, ac eraill o gyfeillion caredig yr achos. Costiodd yr adeilad tua £200, a thalwyd y cyfan gan y gynulleidfa, oddi eithr £15. Y mae yr addoldy yn bresenol yn ddiddyled.
Gan fod yr eglwys hon o'i dechreuad hyd yn awr, wedi cydgyfran-