Edwards, o Nanhoran. Yr oedd yn feddianol ar synwyr cryf, a dawn parod i draethu ei feddwl. Bu ei symudiad yma yn dra bendithiol i'r achos gwan; dangosodd trwy ei ffyddlondeb a'i haelioni fod yr achos yn agos at ei feddwl. Hefyd, yr oedd yma un Richard Price a'i briod, y rhai oeddynt yn hynod o gymwynasgar i'r achos yr adeg hono; yr oeddynt mewn amgylchiadau cysurus, ac yn cadw tafarn, a dywedir iddynt roddi ymborth a lletty yn rhad i'r holl bregethwyr a ddeuent yma, dros lawer o flyneddau. Teimlai y pregethwyr eu hunain gartref pan gyda theulu caredig Richard Price, ac yn hollol ddyogel rhag rhuthriadau y terfysgwyr pan o dan arwydd y "Liver." Amlhaodd cyfeillion yr achos yn raddol; ni ddiffoddwyd y llin yn mygu, ac ni thorwyd y gorsen ysig. Ymunodd un Edward Roberts a'r achos, a pharhaodd yn aelod dichlynaidd am dros 60 mlynedd. Yr oedd hwn yn grefyddwr bywiog a chywir, a chredir fod marw yn elw iddo. Ar ei ol ef, daeth Mr. Hughes, Tymawr (taid yr un presenol) i "ymwasgu a'r disgyblion;" a bu yntau yn bleidiwr gwresog i'r achos, gan gyfranu yn haelionus tuag at ei angenrheidiau. Yr oedd yn anmhosibl y pryd hwnw i gael tir yn y Llan i adeiladu addoldy ymneillduol, ond bu Mr. Hughes mor garedig a rhoddi darn o dir i'r perwyl, am 99 o flyneddau, yn y man mwyaf cyfleus ar ei estate, am bum swllt o ardreth blynyddol. Parhaodd yn noddwr caredig i'r achos hyd ei fedd. Y mae amryw o'i hiliogaeth yn dilyn ei esiampl deilwng hyd y dydd hwn. Adeiladwyd capel Peniel a thŷ mewn cysylltiad ag ef yn y flwyddyn 1811. Saif ychydig yn y wlad ar ochr y ffordd sydd yn arwain o Lanerchymedd i Langefni. Dyma lle y buwyd yn addoli hyd nes yr adeiladwyd capel yn y Llan, Pregethir yma eto yn achlysurol, a chynelir ysgol Sabbothol yn rheolaidd.
Y Parch Abraham Tibbot oedd y gweinidog sefydlog cyntaf a fu yma. Dywedir iddo fod am beth amser yn cadw ysgol ddyddiol yn yr hen adeilad yr arferid pregethu ynddi yn y Llan, sef y "White Horse." Yr oedd Eglwys Rhosymeirch o dan ei ofal gweinidogaethol yr un pryd. Tueddir ni i feddwl mai am dymmor lled fyr y bu Mr. Tibbot yma. Y gweinidog sefydlog nesafoedd y Parch David Beynon yn bresenol o Nantgarw, sir Forganwg. Yr oedd Mr. Beynon wedi bod ar daith trwy Fon, gyda'r diweddar Barch. G. Hughes, Groeswen, yn y flwyddyn 1811, a gwahoddwyd ef gan eglwys Peniel yn mhen dwy flynedd ar ol hyny i Gymanfa Mon, yr hon a gynelid yr hâf hwnw yn Llanerchymedd, Cydsyniodd yntau a'r cais. "Am ddau